MR. JOHN WILLIAMS. RACINE, WISCONSIN.

Awst y 6ed, yn Racine, Wisconsin, ar ôl maith nychdod, yn 61 mlwydd oed, bu farw Mr. John Williams.

Ymfudodd gyda gwraig a 4 o blant o le o'r enw Tyddyn y Ffynon, ger Pwllheli, Gogledd Cymru, oddeutu 22 mlynedd yn ôl. Buont yn byw mewn gwahanol fanau yn nhalaeth Efrog Newydd am chwe' blynedd. Un mlynedd ar bymtheg i'r wythnosau hyn, ymfudodd oddiyno i'r lle hwn. Yn fuan wedi dyfod yma bu farw ei briod - mam dyner ei blant, yr hon oedd yn amlwg mewn grâs.

Yn mhen amryw flynyddau ymunodd mewn priodas âg un a brofodd yn ymgeledd gymhwys iddo, yr hon sydd heddyw wedi ei gadael yn unig yn nyffryn galar. Edrychid ar Mr. Williams yn un o hen grefyddwyr Racine. Yr oedd yn aelod eglwysig pan y daeth yma, ond maglwyd ef gan Satan i gefnu ar dŷ Ddnw, a bu yn crwydro yn faith yn anialwch gwrthgiliad, heb un arwydd fod a fynai Bugail y praidd ddim âg ef, ac na fynai yntau ddim â'r Bugail; ond yr oedd ryw fwy o dynerwch yn ei feddwl er ys rhai misoedd cyn ei ymadawiad, ac yn ei gystudd, yn hoff iawn o gymdeithas y bobl oreu, gan ddymuno iddynt weddio drosto, gan dystio ei ymdrech i roddi ei hun yn bechadur tlawd a gwrthgiliedig i Geidwad i'w gadw; ac aeth cyn belled nes dymuno cael derbyniad i fysg y saint ar y ddaiar.

Gorchfygwyd ef gan angeu yn arafaidd, o fesur y fodfedd. Ymdrechodd i ddyfod o'i wely hyd y gallodd, ond aeth y gwyr cryfion i grynu, a'r rhai a edrychent trwy y ffenestri i lechu i lawr yn eu tyllau, ac ehedodd y rhan farwol i'r byd mawr yn fore ddydd Llun.

Dranoeth, ymgasglodd torf fawr iawn, lluosocach na chyffredin, i hebrwng ei gorph i'r bedd. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. Jones, a'r ysgrifenydd; a chan i ni orfod daiaru tri o'n cydgenedl, mewn oed, y ddau ddydd agosaf i'w gilydd, sylwyd y nos Sabboth canlynol ar Deut. xxxii. 29, gan Thomas H. Roberts.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1860.