MRS. MARGARET WILLIAMS, PROSCAIRON, WISCONSIN.

Mawrth 17eg, yn nghwr ardal Proscairon, Wisconsin, o enyniad yr ysgyfaint, yn 63oed, Mrs. Margaret Williams, priod Mr. Robert Wilíiams, gynt o Pen-isa-rhôs, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Buont yn briod am 39 o flynyddoedd. Ymfudasant gyda 3 o feibion, 2 o ferched o Gymru i'r ardal hon yn 1847; yr oedd dau o'r meibion yn y wlad hon o'u blaen. O ran ei thymher naturiol, pwyllog, a mwynaidd ydoedd, ac yr oedd trefnusrwydd, a phrydlondeb yn addurn ar ei holl gysylltiadau. Yr oedd yn briod ymgeloddgar a hynaws - yn fam serchog a dylanwadol, fel y Cyfryw, yr oedd yn un o'r rhai hyny a welodd Solomon, pan y dywedodd, "Calon ei gŵr a ymddiried ynddi. Hi a egyr ei genau yn ddoeth, a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi. Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thy, ac ni fwyty fara segur. Ei phlant a gyfodant, ac a'i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a'i canmawl hi."

Ar eu sefydliad yma, er mor wanaidd, a diaddurn ydoedd achos ei Gwaredwr ar y pryd, gwnaeth hi yn ffyddlawn er "cyfodi Jacob, canys bychan oedd." Byddai yn brydlawn yn moddion gras, a pheth rhyfedd fyddai ei gweled yn absenol. Ni fyddai ei phrofiad yn gyffredinol yn uchel; ond byddai yn ddianwadal; teimlai fwy nac a lefarai. Ni byddai yn "absenu a'i thafod, nac yn gwneuthur drwg i'w chymydog."

Ei dyn oddi allan ydoedd yn wanaidd yn wastad, a buasai wedi llethu droion o dan faich o ofidiau, oni buasai ei hyspryd tawel a gwrol. Dyoddefodd ei chystudd olaf yn dra amyneddgar. Ni chlywid hi yn cwyno, ond yn canmawl mor esmwyth oedd, ond yn unig ei bod yn wan. Bu am amryw wythnosau yn methu mwynhau cysegroedd tŷ ei Duw, ond yr oedd yn ei gael ef yn gysegr iddi yn ei chystudd - llawenychai yn ei hyspryd wrth glywed hanes y cyfarfodydd gweddio, a'r modd yr oedd Duw yn achub ynddynt yn ein hardaloedd. Daeth i synied yn lled ebrwydd yn ei chystudd, fod adeg ei hymddatodiad yn nesau; ond yr oedd yn gynil i amlygu hyny gan mor afaelgar oedd ei theulu ynddi. Tystiai nad oedd ganddi afael yn y bywyd hwn, ond yn unig er eu mwyn hwy. Nos Wener, tystiai nad oedd arni ddim ofn marw - fod y "breichiau tragywyddol oddi tani."

Fel yr oedd yn byw, felly yr oodd yn marw, yn ffyddiog a hyderus. Sisialai yn ein clyw pan yn rhydiau'r afon, " Dyolch i ti Iesu anwyl, derbyn, derbyn." Felly, yn ddistaw, heb iddi na brysio na dychryn, derbyniwyd ei hyspryd gan Dduw, yr hwn a'i rhoes, wedi iddi ddilyn yr Oen am 22 o flynyddoedd.

Y dydd Mercher canlynol, ymgasglodd y cymydogaethau cylchynol yn dorf fawr iawn o bob cyfeiriad i hebrwng y corph i ystafelloedd y dyffryn. Anerchwyd y dorf wrth y bedd, yn mynwent Engedi, gan amryw frodyr. Yn y capel, ar ôl claddu, pregethodd y Parch. J. R. Daniels, oddiar "A wylwch gyda y rhai sydd yn wylo;" a'r Sabboth, yn yr un lle oddiar "Y dymchwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a'r drygionus," gan yr Ysgrifenydd.
THOMAS H. ROBERTS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1860.