MR. WILLIAM WILLIAMS, PICATONICA, IOWA COUNTY, WISCONSIN.
Gorphenaf 30ain, yn Picatonica, swydd lowa, Wisconsin, Willìam, mab David a Catharine Williams, gynt o Ben y Bwlch, plwyf Gyffin, ger Conwy, swydd Gaernarfon, yn 23 mlwydd oed.Ei glefyd oedd y darfodedigaeth. Yr oedd wedi cael y fraint o'i ddwyn i fyny yn Eglwys Dduw o'i febyd, ac yr oedd ei rediad hyd ddiwedd ei daith yn addas.
Ar achlysur y gladdedigaeth gweinyddodd y Parch. J. Davies.
J. W. JONES.