MR. ROBERT (RICHARD) CHARLES, BRIDGEWATER.
Mab Richard Charles ac Ann (Roberts), merch Tir Rhos, Llangwnadl.Plant : Robert Robert Charles (1810-1863).
Richard, bedyddio yn Capel Penygraig 12fed Mehefin 1814.
Lowry, bedyddio yn Capel Penygraig 9fed o Fedi 1817.
Teulu yn ymfudo yn 1818.
Glyn Roberts ~ Gorffennaf 2021.
MR. ROBERT CHARLES, BRIDGEWATER, Oneida Couty, New York.
Ganwyd gwrthddrych y cofiant hwn mewn lle a enwir Cae-newydd, plwyf Bryn Croes, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1787. Mab ydoedd i Richard Charles a Jane Roberts.Ymunodd mewn priodas gydag Ann Roberts, Ty'-nyrhos, Llangwnad, o'r un Sir, yn y flwyddyn 1806.
Ymfudasant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818. Ar eu dyfodiad yma, ymsefydlasant yn amgylchoedd Remsen Swydd Oneida, Caerefrog Newydd, hyd y flwyddyn 1852, pryd y symudasant i Bridgewater, yn yr un Sir, lle y darfu iddo ef aros weddill ei oes yn y byd hwn. Cymerwyd ef yn glâf y 14eg o Raagfyr, 1860, gan anwyd trwm yn y dechreu; yna cymerwyd ef gan y Dropsy, ac ar ôl hyny gan Ddarfodedigaeth cyflym. Darfu iddynt dynu yr hen babell i lawr Mawrth 3ydd, 1861, yn y flwyddyn 74 o'i oedran. Ar y 6ed, ymgynullodd lluaws o'i gymydogion, yn Gymry a Saeson. Gweinyddwyd yr achlysur gan y Parch. John S. Adams.
Yn awr nodwn ychydig o'i nodweddion. Yr oedd yn ddyn gweithgar, a gofalus am ei deulu. Fel cymydog, ni ddywedai, "Dos ymaith, a thyred amser arall," os byddai y peth ganddo ar y pryd, na, yr amser y byddai eisieu cymhorth oedd ei amser ef i estyn cymhorth. Yr oedd yn ei drafodaeth a'r wlad yn gyffredinol yn ŵr cyfiawn a gonest : yr oedd ei eirwiredd, medd y rhai a'i hadwaenent oreu, uwchlaw amheuaeth. O ran ei nodweddiad crefyddol, ni allai oddef y rhai drwg. Yr oedd yn ei gystudd yn ymroddi i ymddiried ar drugaredd Duw trwy Iesu Grist. Ei ofid yn ei ddyddiau diweddaf oedd, ei fod wedi bod yn ymddiried gormod ynddo ei hunan. Pan oedd un brawd yn ymddyddan ag ef un diwrnod am ei brofiad, dywedai mai pur dywyll oedd hi yn aml, ond ei fod wedi cael gwawr yn yr hen benill hwnw -
"Mae yuddo'i hunan drysor mwy
Nag fedd yr India lawn;
Fe brynodd i mi fwy na'r byd
Ar groesbren un prydnawn."
Un diwrnod, wrth ymddyddan a'i briod, dywedai, "ei fod yn hiraethu am ymadael a'r byd hwn." Gofynai hithau iddo, "A oedd yn meddwl y câi le gwell ar ôl myned oddi yma?" Dywedai yntau, "ei fod yn gobeithio hyny." " Y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw." Diwrnod arall, galwai ar ei briod i adrodd yr hen benill hwnw -
"Caed ffynon o ddwfr ac o waed," a.y.
Felly fe hunodd ar y dydd crybwylledig yn yr Iesu.
DAVID L. EDWARDS.