MRS. ELIZABETH EVANS, OAK HILL, OHIO.

Merch ydoedd i Mr. a Mrs. Williams sydd yn byw yn bresenol yn y lle uchod. Ganwyd hi yn ymyl Bethel, swydd Gaernarfon. Ymunodd â cbrefydd pan yn 14 oed. mewn lle a elwir Sil, Aber-y-pwll, dan ofal y Parch. David Griffiths, Bethel. Edrychid arni fel un o ragorolion Israel er yn ieuanc.

Mewn amser pan yn 21 oed ymbriododd ag un Mr. William Thomas, yr hwn a ystyrid yn ddyn ieuanc duwiol iawn. Bu iddynt 4 o blant. Bu farw un yn faba» yn yr hen wlad; cychwynasant tua 15 mlynedd yn ôl i'r wlad hon a sefydlasant yn ardal Oak Hill. Yn mhen mis wedi dyfod i'r wlad yma bu farw ei hanwyl briod William. Ac er amlygu yr olwg oedd arno yn yr hen wlad fel crefyddwr, hysbysir i'r eglwys, pan glywsant am ei farw, er ei fod yn America. wisgo areithle Silo, Aber-y-pwll, â galar wisg, er dangos ei parch iddo fel brawd crefyddol, a bu yno alar mawr. Mewn amser dyfodol collodd o un i un ei phlant oll.

Priododd yr ail waith â Mr. John Evans o'r ardal hon. Bu iddynt ddau o blant, mab a merch, pa rai sydd eto'n fyw dan ofal eu hanwyl dad. Edrychwn arni yn nesu i farw. Meddyliwyf nad oedd i Mrs. Evans gyfansoddiad naturiol cryf, a'r amgylchiadau a enwyd a'i gwanychodd yn fawr. Bu yn glaf amryw fisoedd, a'r frawdoliaeth yma a ddangosasant bob parch iddi trwy ymwelion a chyfarfodydd gweddi, a phan byddid yno dygid y gwyddfodolion yn gyffredin i'r teimlad nes gwaeddi, Da i ni fod yma, a chlywais amryw yn dweyd mai gwledd i enaid oedd cael ei chyfeillach.

Bu farw y 19eg o fis Mai yn 48 mlwydd oed. Claddwyd hi yr 20fed yn nghladdf» Oak Hill. Ar yr amgylchiad ymgasglodd tyrfa fawr ynghyd, i ddangos eu caredigrwydd i goffadwriaeth ein hynaws chwaer.

Gweinyddwyd ar yr achlysur yn yr anedd, y capel, ac ar lan y bedd gan y Parch. John Evaus (T. C.) a'r ysgrifenydd.

A chefnodd pawb mewn galar dwys
Gan adael Betsen dan y gwys
Hyd fore'r codi mawr,
Pan gwelir hi yn hardd ei gwedd
Ar ddelw Crist yn dod o'r bedd
Yn. ddysglaer fel y wawr.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1861.