MR. EVAN EVANS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 18fed, yr hen gymydog a chydnabod i lawer, Mr. Evan Evans o'r Tŷ Fwg, fel yr aferid ei alw yn yr hen wlad ac yn y wlad hon.

Diangodd o beryglon angeuol gymaint fe allai ag un dyn, ond daeth ei ddiwedd yntau i'w gyfarfod ac nis gallod ddianc y tro hwn.

Ar y 7fed o Chwefror, y noson oer ryfeddol hono, yr oedd yn dychwelyd adref o Utica i dŷ ei fab-yn-nghyfraith, yn mhlwyf Marcy, ar hyd y gledrffordd, pryd yr aeth yr awel a'i hat ymaith, a ffaeliodd yntau gan rym yr oerni; ond clybuwyd ei waeddi gan deulu cyfagos; dygwyd ef i'w tŷ, a chafodd bob ymgeledd. Ond yr oedd rhanau o'i gorph wedi rhewi mor ddrwg. fel er iddo gerdded adref boreu dranoeth a byw rai dyddiau - eto bu y tro yn angau iddo.

Dygwyd ei weddillion marwol i gael eu claddu yn Remsen. Gadawodd deulu lluosog i alaru ar ei ôl. Cyrhaeddodd yr oedran mawr o 77 mlwydd.

Gweinyddwyd yn ei angladd yn y Capel Ceryg, Remsen, gan T. Thomas, Utica, R. Salisbury, M. Roberts a Ricbard Jones wrth y bedd.
M. ROBERTS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1861.