MARY OWEN EVANS. RACINE, WISCONSIN.
Medi 18fed, 1861, yn Racine, Wisconsin, Mrs. Mary Evans, priod Mr. Humphrey Evans, 71 o flynyddoedd yn ol y ganwyd hi yn mhlwyf Llandduwa, sir Feirionydd, Gogledd Cymru.Cafodd y fraint o'i magu gan rieni duwiol, ac yr oedd argraffiadau o hyny yn weledig ar ei hymarweddiad tra y bu byw, yn y parch a deimlai at ordeinhadau tŷ Dduw, a'i ffyddlondeb arbenig i ddilyn moddion gras; yr oedd yn hyny yn esiampl teilwng o efelychiad.
Buont yn briod am 47 o flynyddoedd. Yn mhen blwyddyn ar ol eu hymuniad priodasol ymunodd ag achos y Gwaredwr, a pharhaodd yn ddigwymp hyd ei bedd; 19 mlynedd yn ol ymfudasant o Lanfair, Meirionydd, i'r wlad hon; ni orphwysasant nes cyrhaedd y dref hon. Gan eu bod yn mysg y Cymry cyntaf yma, cawsant y fraint o roddi eu tŷ i arch Duw breswylio ynddo am amser.
Dygasant dyaid hardd o blant í fyny, ond rhai o honynt a flaenasant eu mam i ystafelloedd oer y dyffryn, a chwech eto yn aros, un o ba rai yw Mrs. Ellis, priod y Parch. Robert Ellis, Ysgoldy, sir Gaernarfon. Wedi cyrhaedd oedran teg, cafodd ein hen chwaer fynediad rhwydd trwy "lyn cysgod angau;" ychydig ddyddiau y bu yn gorwedd — anhwyldeb cylchrediad y gwaed oedd cyfrwng angau i'w dwyn ymaith. Yn ei chystudd ymgysurai yn nerth gras Duw ar ei chyfer, a swniai yr hen benill -
"Tebygwn po bae'm traed yn rhydd," a.y.
Dydd Iau ymgasglodd y Cymry ac eraill yn dorf fawr iawn i hebrwng y llygradwy i dỳ ei hir gartref. Gan fod eu tỳ wrth ochr y capel aeth y dorf i mewn a phregethodd y Parch. Thomas H. Roberts oddiar 1 Cor. xv. 56, 57. Cydymdeimlir yn ddwys a'i phriod, yr hwn sydd wedi cael ei adael yn nyffryn adfyd yn amddifad o'r ymgeledd a'r cysur a weinyddid iddo yn ofalus am ran mor faith o'i oes. "Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth, oherwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragywyddol."
UN A'I HADWAENAI.