MRS. MARY O. JONES. CINCINNATI.
5ed Ionawr 1861, yn Cincinnati, o'r darfodedigaeth, yn 54 mlwydd oed, Mrs. Mary O. Jones, gweddw Mr. Edward O. Jones.Yr ydoedd wedi ymfudo i'r wlad hon o Benrhyn, Sir Feirionydd, er ys 26 o flynyddoedd yn ôl.
Yr oedd yn aelod grefyddol er pan yn 14 oed, gyda'r T. C. Cafodd y fraint o barhau hyd y diwedd. Bu farw mewn ffydd, a gobeithiai fod y cwbl yn dda, trwy râs Duw.
Cafodd gystudd maith, ond yr oedd ynddo yn dawel i Ewyllys yr Arglwydd. Gadawodd ddau o blant amddifaid ar ei hol. Duw a fyddo yn Dad iddynt.
Gweinyddwyd yn ei chladdedigaeth gan y brodyr, Powell, Jones, ac Amery. Powell i bregethu pregeth angladdawl yn y capel y Sabboth nesaf, Ionawr 20fed.