MRS. CATHARINE LLOYD. FAIRHAVEN, VERMONT.

Diau fod cofiant i bob un wedi ei ysgrifenu yn rhywle, pa un bynag a argraffwyd ef ar bapyr ynte na wnaed. Gedy pob un gofiant ar ei ôl wedi ei gerfio ar galonau rhyw rai, a chedwir cyfysgrif o'r cwbl yn y swyddfa fawr fry. Mae yn debyg hefyd fod y cofiantau a argraffwyd ar bapyr am lawer un yn wahanol iawn i'r records a ddarìlenir amdanynt yn y dydd mawr olaf. Ac wrth feddwl am bethau felly, anhawdd yw peidio teimio mai bychan a dibwys iawn yw yr hyn a argraffwn ni ar bapyr am y rhai anwyl a hunasant. Er hyny, mae cael croniclo ychydig eiriau yn y modd yma yn eu cylch, yn rhyw help i ni gynal baich ein hiraeth ar eu hôlau.

Nid ydym yn dweyd fod rhyw hynodrwydd arbenig yn pertbyn i'r chwaer y dywedwn air o'i hanes yn awr. Eithr megis miloedd o wragedd rhinweddol a mamau tyner cyffelyb iddi, rhedodd afonig ei bywyd hi yn dawel trwy ddyffryn lled wastad ac anghyhoedd, a brysiodd i ymgolli yn nyeithrwch môr mawr y bythol fyd, heb yn wybod i neb ond ychydig anwyliaid agos, a'r Hwn "nad oes greadur anamlwg yn ei olwg ef."

Mrs. Catharine Lloyd ydoedd ferch i Mr. Rowland Williams, Middle Granville, New York, gynt o Ffestiniog, Gogledd Cymru. Ymfudodd hi i'r wlad hon tuag un-mlynedd-ar-ddeg yn ôl. Priododd gyda Mr. William Lloyd, Tachwedd 8, 1855. Bu iddynt dri o blant. Diangodd y ddwy eneth fach a gawsant gyntaf, o flaen eu mam i wlad y bythol Hâf. Mae yr olaf wedi ei adael yn fachgen bach heb fam, yn y byd oer yma, ac yntau heb fod yn flwydd oed. Dyoddefodd Mrs. Lloyd hir nychdod dan ddwylaw yr angau araf a gwenieithus hwnw — Darfodedigaeth. Gorphenodd hwnw ei greulon waith arni bore yr 16eg o Fawrth diweddaf.

Cafodd ein chwaer y fraint o gael ei magu o'i mebyd yn Eglwys Dduw, ac aros yno yn ddi-dramgwydd hyd nes huno yn yr angau. Ac yr ydym yn hyderu iddi gael lle yn mhlith "y rhai a ddaethant allan o wlad y cystudd mawr, ac a olchasant eu gynau ac a'u canasant yn ngwaed yr Oen."

Un dawel, ofalus am drefn ei thŷ, a chysur ei tbeulu, ydoedd. Cawsom hi bob amser yn ddioddefgar yn ei chystudd. Nid hawdd oedd cael ganddi siarad llawer am ei tbeimladau : ond yr oedd yn hawdd deall ar ei hawydd am foddion gras, fod ei chalon yn hoffi i

"Cwmni'r pererinion,
A hyfryd wleddoedd Seion."

Ychydig ddyddiau cyn marw, dywedodd fod arni cryn ofn wrth feddwl am galedwch ei chalon: a'i bod yn teimlo mai ofer iawn pwyso ar neb na dim ond Iesu : ond ei bod yn ceisio ymddiried y cwbl i'r Gwaredwr, gan deimlo yn ddiogel ei fod ef yn Ddigon byth.

O! y mae flydd yr efengyl yn anwyl, pan edrychom arni fel rhaff angor yn dal yr enaid yn nghanol

"Gorwyllt rym y lli'!"

Mae "angor yn ddiogel ac yn sicr:" ond O mor egwan yn aml yw ein rhaff!

Daeth lliaws mawr o gymydogion a pherthynasau i hebrwng corff ein chwaer i'w orphwysfa yn y llwch. Cânwyd yn ber o'r tŷ i'r gladdfa, ac wrth y bedd; a chafodd yr ysgrifenydd y fraint o wneyd ychydig sylwadau a wrandewid yn astnd iawn gan y galarwyr.

Hyderwn y bendithir ei phriod trwy ei alar a'i golled fawr ar ei hol. Mae bendithion goreu dyn wedi dyfod iddo trwy ddyoddefiadau. Ond os na lwydda pregethau a frathant hyd eigion ein calonau fel hyn er ein dwyn i werthfawrogi Gorchfygwr Angau, mae lle i ofni y disgynwn i'r bedd heb fod yn gyfeillion i'r Adgyfodiad a'r Bywyd.

"Nawdd Duw a'i dangnef," fyddo yn etifeddiaeth i'r bachgen bach amddifad a'i dad wylofus sydd yu teimlo mai gwag yw lle y fam a'r wraig ymadawedig hon.
R. L. HERBERT. Fairhaven, Vermont, Ebrill 1861.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1861.