MISS. ELLEN MORRIS, WEST BANGOR, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.
Rhagfyr 9fed, 1861, yn West Bangor, York County, Pennsylvania., Ellen Morris, unig ferch William Morris, gynt o blwyf Llanbedrog. swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn 15 mlwydd oed.Ei chlefyd oedd y typhoid fever. Dyoddefodd gystudd trwm am agos i bythefnos.
Yr oedd yn eneth obeithiol. a pharodd ei marwolaeth lawer o alar yn mhlith y genethod ieuainc yn yr ardal. Tyrfa luosog o'i chyd genedl a ddaethant i'w chladdedigaeth, a chladdwyd hi yn mynwent Slateville. Gweinyddwyd gan y brawd Daniel Jones, ac wrth y bedd gan y Parch. John Williams.
WILLIAM MORRIS.