MRS. ANN PIERCE, RACINE, WISCONSIN.
Chwefror 2ail, yn Racine, Wisconsin, Mrs. Ann Pierce. Yr oedd ein chwaer ymadawedig yn enedigol o yn agos i Ddolgellau, Gogledd Cymru. Pan ydoedd yn 9 mlwydd oed, bu farw ei thad a'i mam; mewn canlyniad symndudodd i fod dan sylw tyner ewythr iddi yn ninas Liverpool : yno cafodd dderbyniad i ysgol a sefydlwyd i blant amddifaid o'u tad a'u mam, trwy haelioni boneddwr o'r enw Mr. Croper, yr hwn yn unig a dalai yr holl draul. Cadwyd ein chwaer yn yr ysgol hon am dair blynedd; a chan ei bod o alluoedd meddwl gloyw. cyrhaeddodd radd dda mewn dysgeidiaeth; yna cymerodd y boneddwr haelfrydig hi i wasanaeth yn ei deulu, yr hyn a wnaeth yn ffyddlon am 4 blynedd; yn y cyfnod hwnw ymunodd ag Eglwys Crist.Dwy flynedd yn ôl, ymunodd mewn priodas â'r hwn sydd heddyw yn nyffryn galar, ac ymfudasant yn ebrwydd i'r wlad hon - cyrhaeddasant yn ddiogel yma; yr ydoedd er ys amser yn eiddil ei hiechyd.
Ganwyd ei chyntaf anedig, ond y fath ydoedd ei gwendid blaenorol, fel yn mhen deuddeg diwrnod yr ehedodd ei henaid i'r byd mawr, yn 27ain mlwydd oed. Tvstiai foddlonrwydd i farw. os hyny ydoedd ewyllys ei Thad Nefol. Dydd Mawrth ymgasglodd y Cymry yn dorf hardd i hebrwng y marwoli dŷ ei hir gartref. Bedyddiwyd y ferch fechan amddifad yn nghanol dagrau lluaws, ac yn ymyl corph y fam; galwyd hi yn ôl dymuniad y fam, Anne Eliaabeth.
Yna aethpwyd i'r capel a phregethwyd gan y Parch. T. H. Roberts, oddiar Ioan xiv. 13 ; hefyd yn Saesoneg gan y Parch. Mr. Hopkins; a gweinyddwyd wrth y bedd gan y Parch. W. R. Jones. - wele aelod eto o'n mysg, y T. C. yn Racine, wedi ei chymeryd i fyd yr ysprydoedd. Mynych trwy weinidogaeth angau y gelwir arnom i "drefnu ein tŷ, canys meirw a fyddwn, ac ni byddwn byw.