MR. ELLIS PRICHARD. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mab Richard ac Elizabeth Abraham o Ty Newydd Gelliwig ym mhlwyf Bryncroes. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys y Santes Fair, Bryncroes ar 4/9/1790.

Roedd ei frodyr Thomas, William a Griffith wedi ymfudo i America yn 1800.

Yn 1818 ymfudodd Richard ac Elizabeth Abraham a'u merch Gwen, ac mae yn debygol mai yn yr un flwyddyn yr ymfudodd Ellis a'i frodyr Robert a John hefyd.

Yn America roedd Ellis a'i wraig Jane yn ffermio ar Lot 140 o Steuben Patent, yn weddol agos i Capel Ucha, Steuben.

Yr oedd eu merch Gwen wedi priodi Robert T Jones, Rhydlios. Un arall o'u disgynyddion oedd Margaret Prichard Davis, awdur y llyfr "Honey Out Of The Rafters" sydd yn adrodd peth o hanes y Cymry wnaeth sefydlu yn ardaloedd Steuben a Remsen.

Bu Jane Prichard farw ar 11/4/1842 yn 47 oed.

Bu Ellis Prichard farw ar 14/4/1861 yn 70 oed.

Mae gweddillion y ddau wedi eu claddu ym mynwent Capel Sixty yn Steuben.

Glyn Roberts ~ Hydref 2021.