MRS. JANE PRITCHARD, ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 8fed, yn nghymydogaeth Rome, o'r clefyd melyn, Mrs. Jane Pritchard, yn 53 mlwydd oed, priod Mr. William Pritchard, tyddynwr o'r lle hwnw.

Ganwyd y trengedig yn ardal Capel Cerig, Sir Gaernarfon. Merch ydoedd i Moses a Jane Hughes, o'r ardal uchod. Ymunodd ag achos crefydd gyda'r T. C. pan oddeutu 32 mlwydd oed.

Dylem hysbysu i'r darllenydd ei bod yn fud a byddar, er hyny gwelodd yr Arglwydd yn dda yn ei ras, trwy ryw lwybr ddangos iddi ei bod yn bechadures, a bod ganddo drefn i'w hachub; ac felly rhoddes ei hun yn gyntaf i'r Arglwydd, ac yna i'w bobl ef. Priododd pan oddeutu 32 oed, a gellir dweyd am dani, er ei holl anfanteision, iddi fod yn ymgeledd gymwys i'w gŵr am 21 o flynyddoedd. Bu iddynt dri o blant - fel mam, mae y teimlad sydd gan y plant ar ei hol yn profi eu bod yn agos at ei meddwl, ac yn anwyl iawn. Yn y flwyddyn 1850, daethant drosodd i'r wlad hon, ac ymsefydlasant yn Frankfort Hill ar y cyntaf, a buont yno wyth mlynedd; wedi hyny daethant i ardal Rome, ac yma y gorphenodd hi ei gyrfa ddaearol.

Nid oedd amheuaeth yn meddwl neb a'í hadwaenai, nad oedd yn Gristion cywir; deuai i'r moddion yn ôl ei gallu, er nad oedd yn deall dim a ddywedid yno, ond er hyny byddai yn ystyried nad oedd yno "onid Tŷ i Dduw, a phorth i'r nefoedd." Mae rhywbeth yn fy nghymhell i roddi i lawr un awgrym o'i heiddo a wnaeth yn ddealladwy wrth ei mherch, pan ddaeth adref i ymweled â hi dridiau cyn iddi farw. Amlygai iddi, "pan fyddai yn cysgu y byddai rhyw un yn gafael yn ei llaw ac yn gofyn yn dyner iddi, a ddeuai hi gydag ef i fyny i ryw le; fod yno wlad hyfryd a dymunol, a bod pawb o'r trigolion yn hollol iach." Byddai yn cael y weledigaeth yma yn aml yn ei chystudd.

Daeth tyrfa luosog yn nghyd i hebrwng ei rhan farwol i fynwent Rome, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Hugh Ẁilliams, Rome, a William Rowìands, Holland Patent.
JOHN H. PARRY

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mawrth 1861.