MISS. JANE ROBERTS, DYLASA, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.

Medi 16eg, wedi gyrfa fer o 17 mlwydd a 10 mis oed, Jane, merch i Owen a Jane Roberts, Dylasa, Welsh Prairie, Wisconsin, gynt o Benmachno, Gogledd Cymru.

Cafodd gystudd trwm iawn am 10 mis o'r Darfodedigacth. Yr oedd hi o ran ei natur - yn neillduol pan mewn cymdeithas - yn hynod o wylaidd, a thrwy hyny yr oedd ei meddwl yn cael ei gadw yn guddiedig, a hyny gyda golwg ar bethau ysprydol. Ond fel yr oedd ei chystudd mor faith, a hithau yn cael ei chario gan ei chystudd ac amser tua glan yr hen Iorddonen donog.

Yr oedd ei meddwl yn ymddatod oddiwrth bethau gwael a darfodedig amser, ac i syllu yn fwy ar ei mater mawr tragywyddol, a thrwy hyny yr oedd pob ofn dyn yn cilio, daeth i dystiolaethu fod ganddi Gyfaill ag oedd yn aros gyda hi, pan oedd brodyr a chwiorydd ie, tad a mam yn cilio. Er ei bod wedi cael y fraint o'i dwyn i fyny yn eglwys Dduw, ni ymfoddlonodd ar yr enw, ond mynodd gael y sylwedd, a mynodd gael olew yn ei lamp ag oedd yn rhoddi goleuni iddi pan yn ffarwelio â phob peth, ac yn cael ei symud gan angau i'r byd mawr digyfnewid.

Cafodd Dduw yn Dad a Christ yn Gyfaill; aeth adref o gwr yr anialwch a'i phwys ar ei Hanwylyd i fwynhau yr etifeddiaeth gyda y saint i oesoedd tragywddoldeb. "Gwynfydedig yw y meirw, y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd."

"Mewn llety, gwely gwaelwedd - yn dawel
Diau y mae'n gorwedd;
Cyfyd o lwch y ceufedd,
O lun gwael yn lân ei gwedd."

Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. W. Jones, William Robeits a Rees Evans. Daeth torf luosog i hebrwng ei rhan farwol i orphwys fynwent Cambria, at y rhai sydd wedi ei rhagflaenu. "Am hyny byddwch chwithau barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn."
UN O'I CHYMDOGION.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1862.