MISS MARY WILLIAMS, TRENTON, ONEIDA, NEW YORK.

Yn mhlwyf Trenton, yr 22ain o Fai, Mary Williams, merch hynaf William Williams, diweddar o gymydogaeth Capel Newydd, Lleyn, Swydd Gaernarvon, yn 23 mlwydd oed. Yr oedd newydd gyraedd o Gymru gyda ei thad a'i mam a'r teulu, pan y cymerwyd hi yn glaf, ac yn fuan aeth yn waelach, waelach; ac, wele! yn awr ei lle nid edwyn ddim o honi mwy! Yr oedd y chwaer ieuangc hon wedi cael y fraint o ddyfod i'r gyfeillach neillduol cyn ymadael o Gymru, ond heb ei derbyn i gyflawn undeb yr eglwys.

Rhoddwyd ei rhan farwol yn y dystaw fedd yn Mynwent y Capel uchaf, Steuben, a phregethodd R. Everett ar yr achlysur, oddiwrth Preg. 12 : 1.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1840.