MR. WILLIAM W. ROBERTS, ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
27ain Hydref, yn Rome, Sir Oneida. New York, Mr. William W. Roberts, yn 74 mlwydd oed; genedigol o Penllech, Lleyn, Gogledd Cymru.Collodd ei fam yn ddeng wythnos oed. Pan yn 24 mlwydd oed, symudodd i'r Cefu-dŷ mawr, ger Capel Gaerwen, Sir Fôn; ac yn mhen tua dwy flynedd wedi hyny ymbriododd âg Elizabeth, merch Rowland Thomas, melinydd; ac yn mhen chwe' mlynedd ar ôl priodi, ymunodd a chrefydd yn eglwys y T. C yn Talwrn, cartref Parch. John Prytherch. Moddion ei argyhoeddiad oedd cynnal y Ddyledswydd Deuluaidd, yn y Dyffryn Isaf; bu wrth droed Sinai am wythnosau mewn braw a dychryn mawr nes colli ei gwsg yn fynych, a methu myned at ei waith yn aml. Bu fyw trwy ei oes yn ddiofid i'w gyfeillion crefyddol o ran ei ymarweddiad; yn bechadur mawr yn ei olwg ei hun, ond yn dysgwyl yn ddystaw wrth yr Arglwydd, ac yn gobeithio yn ei drugaredd.
Ymfudodd i'r wlad yma yn y flwyddyn 1831. Bu ef a'i deulu am y ddwy flynedd gyntaf yn nghymydogaeth, Nant a Phenycaerau; ac wedi hyny symydasant i Boonville, ac oddi yno i Webster Hill a Quaker Hill, lle bu eu tŷ yn gartrefle cysurus i weinidogion yr efengyl a moddion gras yn y gwahanol ardaloedd. Tua thair blynedd yn ôl aeth y trengedig yn analluog i drin ei dy a symudodd gyda'i briod i Whitesboro; ac yn ddiweddaf oll i Rome, lle y gorphenodd ei bererindod. Yr oedd yn gwaelu yn amlwg er ys tri mis, a nos Sabboth, y dyddnodiad uchod, cafodd ei ollwng yn dawel i fwynhau Sabboth tragywyddol gyda Duw a'r Oen. Yr oedd trwy ei oes grefyddol yn hynod yn ei barch i Ddydd yr Arglwydd, a rhyngodd bodd i'w Dad graslawn oddef iddo gael ei Sabboth daiarol olaf heb un dydd Llun i'w ganlyn. Yn y ddwy Society olaf yr oedd yn fwy parod ei ymadrodd nag arferol, ac yn galw sylw ei gyd-aelodau neillduol at dri pheth pennodol, sef y ddyledswydd o ddarllen, myfyrio a gweddio. O gylch naw diwrnod cyn ei farw, deffrôdd ei briod ganol nos wrth ei swn yn gorfoleddu. Ei destyn oedd yr hen benill -
"Pechadur aflan yw fy enw,
O ba rai y pena'n fyw;
Rhyfeddaf byth fe drefnwyd Pabell
I'm gael tawel gwrdd â Duw;
Yno mae yn llon'd ei gyfraith
I'r troseddwr i gael gwledd;
Duw a dyn yn gwaeddi Digon
Yn yr Iesu'r Aberth hedd."
Dyblai y ddwy linell olaf drachefn a thrachefn a dywedai wrth ei briod na chafodd y fath brofiad melys erioed - "Duw a dyn," ebe fe, "yn gwaeddi Digon - Digon i'r ddau yn yr un man!!!" Canodd tra y gallodd - "Bydd myrdd o ryfeddodau," a.y.
Mewn atebiad i un o'r blaenoriaid, ychydig oriau cyn iddo ymadael, dywedai yn hyderus fod y "Graig yn dal." Gadawodd, heblaw ei briod alarus, chwech o blant, a lluaws o wyrion.
Claddwyd ei weddillion marwol yn meddrod y teulu, yn nghladdfa Floyd, Hydref 29ain - y Brawd W. Rowlands yn pregethu yn Gymraeg a Saesonaeg i dyrfa fawr, ar yr achlysur, oddiar Mal. iii. 16,17.