MRS. ELIZABETH WILLIAMS, FRENCH ROAD, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gwraîg i Mr. Hugh Williams ydoedd Mrs. Elizabeth Wiìliatns. a thrigent mewn tyddyn ar y ffordd o Benygraig i Horeb (French-road) Steuben, Sir Oneida. Caerefrog Newydd. Yr oedd Mrs. Williams yn ferch i Robert a Margaret Griffílhs o'r Bryn Coch, Llanllyfni, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Symudodd i Sir Fôn i weini at y Parch. John Prydderch. Yno priodwyd hi â Hugh, mab i Richard a Chatherine Williams. Tyddyn-y-bwm, Pentraeth.

Oddi yno ymfudodd gyda ei theulu i'r wlad hon tua 30 mlynedd yn ôl, ac yn y lle uchod yr ymsefydlasant, ac yno y bu hi farw, Mawrth 20fed, 1861, ya 63 mlwydd oed, gan adael ei phriod a saith o blant mewn galar mawr.

Hebryngwyd ei gweddillion marwol i gladdfa Penygraig ar yr 22ain - y brodyr Ebenezer Salisbury a W. Rowlands yn gweinydda ar yr achlysur. Yr oedd Mrs. Williams yn wraig hoff, yn fam dyner, ac yn gymydoges garedig; o dymher naturiol mwyn, eto penderfynol. Carai heddwch â phawb ar dir santeiddrwydd; ac fel aelod eglwysig yr oedd gair da iddi gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Ymunodd â dysgyblion Iesu Grist mor foreu a 10 mlwydd oed, a pharhaodd heb alwad am gerydd na chynghor cyhoeddus, yn ddigwymp hyd angau.

Yn Mhenygraig yr oedd yn aelod. Amlygai ffyddlondeb yn ei dilyniad o foddion gras tra y gallodd. Yr oedd ei gwedd dan y weinidogaeth yn profi ei bod yn dal ar y pethau; a llawer gwaith y gwelwyd hi yn tori allan i ganmol y Bendigedig Waredwr, a'i llestr bach dan lawn hwyliau yn nofio môr iachawdwriaeth.

Nid arwynebol ac yn y teimlad yn unig yr oedd ei chrefydd hi ychwaith, ond byddai yn y society bob amser yn barod i adrodd ei phrofiad, a'r pethau fyddai ganddi yn dangos ei bod yn llafurio gartref hefyd, yn y Beibl a llyfrau da ereill. Parod iawn ydoedd hefyd i ddwyn crefydd i'r bwrdd mewn ymddyddanion gartref. Ac hysbyswyd i mi gan rai o'i chwiorydd fu yn cyd-gynnal cyfarfodydd gweddi â hi, ei bod yn nodedig o afaelgar mewn gweddi. Ymddengys oddiwrth y darn canlynol o lythyr sydd genyf oddiwrth Elizabeth, merch y Parch. John Prydderch, Môn, ei bod yn arfer gweddi er yr ieuanc :

"Mae anfon y llinellau hyn atoch wedi adnewyddu fy hiraeth yn fawr am danoch. Nid anghofus genyf eich gweddiau taerion pan oeddech gyda mi yn y Dyffryn, yn enwedig eich erfyniau dros fy nhad anwyl, pan y byddai yntau ar ei deithiau dros ei Feistr Mawr : taled Brenin Seion i chwi am eich ffyddloudeb."

Derbyniodd y llythyr hwn ychydig o fisoedd yn flaenorol i'w marwolaeth. Dymunem hysbysu i Miss Prydderch, ei bod hi yn "gorphwys oddiwrth ei llafur, a'i gweithredoedd yn ei chanlyn." Bum gyda hi yn fynych yn ei dyddiau diweddaf. Cefais hi wedi bod yn lled isel ei meddwl un diwrnod: "Yr oedd Satan yn dweyd wrthi na waeth iddi roddi heibio ei chrefydd. mai uffern fyddai ei diwedd wedi y cwbl." Ond atebodd ef - "Mai nid yno yr oedd Iesu, ei Phriod, a'i brawd; ac nad yno yr oedd ei phobl ychwaith, a'i bod yn teimìo yn sicr y ca'i fyned at ei phobl." Cafodd lonydd ganddo ar ôl hyn. Tro wedyn yr aethum yno,, dymunai arnaf "anog pobl ieuainc yr eglwys i ymofyn am wir grefydd yn eu hieuenctyd." - Aethum yao y boreu y bu farw - ceisiai adrodd penill o emyn wrthyf, ond ychydig a fedrwn i ei ddeall o hono. Dygwyddodd i'r teulu, gan feddwl ei bod yn cysgu, fyned i'r ystafell arall i gymeryd ychydig o luniaeth tua cbanol nos; ond cyn iddynt ddechreu, galwyd hwynt yn ôl ati gan ei swn yn ceisio gorfoleddu ; methai godi ei breichiau gan wendid. Y penill oedd ar ei meddwl hi y boreu hwnw, a'r un yr oedd yn gorfoleddu arno, oedd -

"Paham yr ofnai'r afon,
Wrth weled grym y dwr?
Mae'r gwaelod wedi ei g'ledu,
A'r Iesu'n flaenaf Gwr;
Yr afon goch lifeiriol,
A darddodd dan ei fron,
'Rwy'n credu caf fynd adref,
Yn ngrym yr afon hon."

Elai ei phriod ati, a dywedai - " Mae'n galed iawn arnat ti, onid ydy' hi, Betti bach?", "O nag ydyw," oedd yr ateb, "y mae hi yn dda iawn arnaf fi." "Dywedwch mai da fydd i'r cyfiawn; canys ffrwyth eu gweithredoedd fwynhant."

Elizabeth WiIIiams aeth adref,
Er gwaethaf pyrth angau a'r bedd;
Ei henaid sydd heddyw'n perseinio
Gogoniant i Awdwr ei hedd;
Caiff yno lawenydd heb derfyn,
Caiff orphwys heb ludded byth mwy;
Ni chlywir mo honi'n gofidio
Yn herwydd u gelyn na chlwy'
EBENEZER SALISBURY.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1861.