MR. JOHN B. WILLIAMS, JOHNSTOWN, PENNSYLVANIA.

Mehefin 6ed, yn Johnstown, Pennsylvania, Mr. John B. Williams, yn 69 mlwydd oed, genedigol o blwyf Llandwrog, swydd Gaernarfon.

Daeth ef a'i wraig gyntaf ac un mab i'r wlad hon yn yr haf, 1844, a daethant i Carbondale yn ngwanwyn 1845. Oddiyno symudasant i Danville, ac oddiyno i Pittston, lle y claddodd ei wraig gyntaf. Gwel yr hanes yn y Cenhadwr, Ebrill, 1847.

Daeth yn ôl i Danville ac yno y bu am rai blynyddau. Clywais ef yn adrodd rai gweithiau hanes ei yrfa ysbrydol. Cafodd ef a'i briod gyntaf eu derbyn ar yr un pryd yn aelodau o eglwys Talysarn, gan y Parch. David Griffiths, a chafodd y fraint o bara yn ffyddlon hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd yn hynod ddiwyd gyda moddion gras, ac astud i wrando - nid yn aml y gwelid ei le yn wag. Yr oedd yn barchus o weision yr Arglwydd, yn ffyddlon gyda'r Ysgol Sabbothol, ac yn selog iawn gyda Dirwest a'r Band of Hope. Byddai yn ofidus iawn pan welai ddyn dan effeithiau y ddiod feddwol, a defnyddiai gyfle i roi gair o gynghor iddo. Cafodd droion chwerwon iawn yn ei dymor. Claddodd ddwy wraig, un yn Pittston a'r llall yn Danville. Priododd ei drydedd wraig yn Danville, yr hon sydd yn awr yn galaru ar ei ôl. Cafodd ei unig fab oedd ganddo yn y wlad hon ei ddiwedd yma yr Hydref diweddaf. Ond trwy y cyfan cafodd y fraint o ddal ei ffordd ac o harddu ffyrdd sancteiddrwydd. Cafodd gystudd trwm am tua 2 fîs cyn ei farw; ond dangosodd fod ei dŷ wedi ei drefnu. Rhoddodd destyn i'n gweinidog i bregethu oddiwrtho ar achlysur y gladdedigaeth, sef Diar. 4: 18

Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brodyr J. L. Jeffries, R. R. Edwards, a J. Edwards.

Mae John yn cysg'n dawel
Yn mynwent Uwch-yDref,
Hyderwn fod ei enaid
Yn ddedwydd yn y nef,
Caiff lonydd mwy i huno
Hyd ddiwedd oesau'r byd,
Nes delo'r adgyfodiad
Pan gwyd y meirw i gyd.
W. P. WILLIAMS A J. R. JAMES.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1861.