MRS. MARY WILLIAMS, SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.
Bu farw, Tacbwedd 5ed, 1861, yn Slatington, swydd Lebigh, Pennsylvania , yn 26 mlwydd a 7 mis oed, Mary Williams, priod Mr. William. R. Williams.Claddwyd hi yn nghladdfa newydd y Cyuulleidfaolion yn y lle uchod, a gweinyddwyd ar yr achlysur i dyrfa fawr gan Mr. Jones, (T. C.) Mr. Harnet, (H ,) a'r ysgrifenydd.
Ganwyd y chwaer hon yn Turkey Shore, Caernarfon, Gogledd Cymru. Merch ydoedd i William ac Ellen Lunt. Daeth i'r wlad hon 9 mlynedd i Mawrth nesaf. Sefydlodd yn Slatington, ac yno yr arosodd nes myned i ffordd yr holl ddaear. Yn mhen tua blwyddyn wedi iddi ddyfod yma, ymunodd mewn priodas â Mr. William R. Williams, mab i Robert ac Elizabeth Williams, y Fedw, Bethesda, Gogledd Cymru, yr hwn sydd yn awr yn ddiacon yn yr eglwys Gynulleidfaol yn Slatington. Bu iddynt dri o blant.
Teimlir colled ar ôl Mrs. Wilìiams yn y gymydogaeth, y teulu, a'r eglwys. Yr oedd iddi "air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Yr oedd yn briod ffyddlon a chynes, yn fam dyner a gofalus, yn gymydoges heddychol a defnyddiol, ac yn Gristion cywir a llafurus. Galwyd hi i winllan ei Hargiwydd yn ieuanc. Rhoddwyd deheulaw cymdeithas iddi gan y diweddar Barch. Llewelyn Samuel, Bethesda, pan yn 17 mlwydd oed, a glynodd yn ei phroffes hyd y diwedd. Ac nid parhau i fod ar yr enw yn rhywfodd wnaeth hi, ond yr oedd yn ffyddlon yn ei holl gyflawniadau crefyddol.
Wrth wrando ar y rhai a'i hadwaenent yn dda yn adrodd ei hanes, yr oedd y geiriau hyny yn dyfod i'm meddwl, "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." Ac yr oedd ei gallu hi yn helaethach na llawer. Yr oedd Mrs. Williams yn un gadarn yn yr Ysgrythyrau. Cafodd fanteision tebyg i Timotheus. Cafodd fam dduwiol i'w hyfforddi yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, fel yr oedd yn gwybod yr Ysgrythyr Lân er yn llances. Clywais un brawd gwybodus yn dweyd, tra yr oedd ef yn athraw ar y dosbarth y perthynai hi iddo yn yr Ysgol Sul, iddo ef ryfeddu at ei deall da hi yn ngair Duw. Felly, nid oedd hi yn euog yn wyneb y geiriau hyny, "Canys lle y dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw; ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf."
Hefyd yr oedd hi yn meddu ar radd helaeth o ysbryd gweddi. Yr oedd yn dywysoges gyda Duw. Hi oedd yn blaenori yn y cyfarfod gweddi chwiorydd oedd ganddynt. Ryw noswaith, o herwydd gerwindeb yr hin, ac amgylchiadau eraill, dim ond tair o'r chwiorydd oedd wedi dyfod yn nghyd, ac yr oedd dwy yn teimlo dipyn yn isel, ac yn barnu, gan eu bod cyn lleied o nifer, y byddai yn well iddynt beidio cynal cyfarfod y noswaith hono. "O na," ebe hithau, "gadewch i ni ei gynal, yr ydym o fewn cylch yr addewid eto." "Ie, beth pe dygwyddai i rywrai ein gweled, a'n gwawdio?" "Gadewch iddynt hwy," ebe hithau, "os gwawdia dynion ni, wawdia Iesu Grist ddim o honom," Ac fe gawsant oedfa ragorol y noswaith hono. Dywedwyd wrthyf gan rai a'i clywsant, ei bod yn gweddio yn gyhoeddus yn y teulu, bob yn ail a'i phriod.
Gweddiai gyda'i phlant wrth eu rhoddi i orphwys y nos. Wedi gwrando arnynt hwy yn adrodd eu gweddiau, gweddiai hithau ar eu holau, ac yn eu clyw. Clywais am un amgylchiad neillduol ynglyn a hyn, ac fe'i nodaf, gan obeithio y bydd yn foddion i ddwyn pob mam a all ddyfod i gyffyrddiad a'r llinellau hyn i wneud yr un modd. Wedi iddi hi gael ei hanalluogi gan gystudd i fyned a'r plant bychain i'r gwely, gorphwysodd ar y tad wneud hyny, a'r noswaith gyntaf gwrandawodd ef arnynt yn adrodd eu gweddiau yr un fath a'u mam. Yna ceisiodd ganddynt fyned i orphwys, ond ni ymddangosent yn ewyllysgar i fyned, eithr arosent, fel pe yn dysgwyl am rywbeth yn ychwaneg i gael ei wneud, a dechreuasant grio. Clywodd y fam glaf ar ei gwely. Gofynodd i'w phriod, a ddarfu iddo ef weddio ar eu holau? Wedi ateb yn nacaol, dywedodd hithau, "Dyna'r achos eu bod yn llefain, gweddiwch chwi drostynt, ar eu holau, byddaf fi yn arfer gwneud bob amser." Felly y bu hi. Aeth y plant i'w gwely, ac angelion Duw yn eu gwylio yno. O famau! a ydych chwi yn gweddio dros eich plant, gyda hwy, ac yn eu clyw? Braidd y mae eisiau crybwyll un peth yn rhagor am y chwaer hon, sef ei bod hi yn meddu ar brofiad crefyddol uchel. Cynhesai teimladau yr holl frawdoiiaeth pan y byddai hi yn adrodd ei phrofiad yn y gyfeillach. Nid oedd yn unffurfiol wrth wneud hyny, yn adrodd yr un peth agos o hyd, ond yr oedd ganddi rywbeth newydd bob tro, yr hyn oedd yn profi ei bod yn cynyddu mewn gras. Nid oedd dim gwaith cymhell arni i ddweyd ychydig, fel rhai, yn debyg fel pe byddid yn tynu dwfr o waelod pydew, ond yn hytrach yr oedd hi yn debycach i lestr wedi ei orlenwi o ddwfr, yn colli dros yr ymyl. Yr oedd yn hawddach ganddi lefaru na pheidio. Yr oedd hi wrth fyfyrio ar bethau ysbrydol, yn ystorio ei mheddwl, fel nad oedd llefaru iddi hi ond tywallt allan yn naturiol yr hyn oedd wedi croni i fewn yn ei henaid. Ond rhag ofn myned yn rhy faith, rhoddaf fy mhin heibio, gan ddymuno heddwch i lwch yr ymadawedig i huno yn ei wely llaith hyd foreu caniad yr udgorn; a boed i Dad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon ofalu am ei phriod a'i phlant sydd wedi eu gadael i alaru eu colled ar ei hol.
"O angeu, hen elyn dynolryw,
Y mae'th ymerodraeth yn fawr,
Teyrnesaist o"r dechreu hyd yma
Ar bawb o breswylwyr y llawr;
Ond gwelaf foreuddydd yn gwawrio,
Y chwelir dy deyrnas bob darn,
Pan gwaedda yr angel o'r nefoedd,
'Chwi feirw cyfodwch i'r farn.' "
JOHN E.JONES.