MR. RICHARD J. WILLIAMS, DANIELSVILLE, NORTHAMPTON CO. PENNSYLVANIA.

Mai 9fed, yn Danielsville, Sir Northnmpton, Pennsylvania, yn 24 mlwydd oed, Richard J. Williams. mab i John a Margaret Williams, Ysgubor Fawr. plwyf Llandwrog, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad yma yn Hydref, 1860.

Yr oedd yn un ymroddgar iawn gyda moddion gras ac helaeth yn ei gyfraniadau, fel yr ydym yn gorfod teimlo colled ar ei ôl. Yn ei ymarweddiad crefyddol argyhoeddai bawb ei fod yn ofni Duw; ac yr oedd yn cilio oddiwrth ddrygioni. Dywedai yn ei ddyddiau ddiweddaf fod ei fater tragwyddol wedi ei setlo rhyngddo a Duw; ac felly yr hunodd yn yr Iesu.

Y dydd canlynol daeth tyrfa lled luosog i hebrwng ei ran farwol i fynwent Cherryville. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. David Kunig yn yr Ellmynaeg. a'r Parch. E. F. Jones yn Gymraeg, yr hwn hefyd a draddododd bregeth angladdol iddo Mai 19eg, yn Gymrage a Saesoneg.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1861.