MR. THOMAS DAVIES, SPRINGWATER, WISCONSIN.

Rhagfyr 18fed, 1862 yn Springwater, Wisconsin, ar ôl hir gystudd, Thomas Davies, yn 38 mlwydd oed. Mab ydoedd i Mr. Morris Davies, Penmorfa, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Gadawodd weddw a thri o blant i alaru ar ei ôl. Yr oedd y trengedig o fewn ychydig i fod yn Gristion ar hyd ei oes, er hyny heb ymuno ag eglwys Dduw. Yn ei gystudd diweddaf, dymunai ar Eglwys y T. C. yn y lle hwn ei dderbyn yn gyflawn aelod i'w breintiau eglwysig. Gwnaed hyny, a hyderwn fod yr hyn a wnaed tu ag ato gan yr eglwys ar y ddaiar wedi ei selio yn achubol ar ei ran yn y nef.

Pregethodd yr ysgrifenydd ei bregeth angladdol, oddiwrth y geiriau - 'Canys ni thramwyasoch y ffordd hon o'r blaen.' - Jos. iii. 4.
R. I. DAVIES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1863.