MR. JOHN ELLIS. RAYMONDTOWN, RACINE, WISCONSIN.
Rhagfyr 8fed, 1862, yn Raymontown, ger Racine, Wisconsin, yn 47 mlwydd oed, o Glefyd y Galon, Mr. John Ellis.Gadawodd wraig ac un mab ar ei ôl. Yr oedd yn enedigol o Harlech, Meirionydd, Gogledd Cymru.
Yr oedd wedi ymsefydlu yn y parth hwn er ys llawer o flynyddoedd. Yr oedd trwy ei gynildeb a'i weithgarwch wedi cyraedd sefyllfa gysurus yn y byd.
Bu farw yn dangnefeddus. Ar y 10fed, claddwyd ef yn nghladdfa Racine - y Parch. William Hughes yn gweinyddu.