MR. GRIFFITH E. GRIFFITHS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mawrth 24ain, 1862, yn mhlwyf Trenton, Caerefrog Newydd, Mr. Griffith E. Griffiths, yn 73 mlwydd oed. Dyoddefodd gystudd am tua 4 mis. Ei brif afiechyd oedd y Graeanwst.

Ar y 26ain, ymgynullodd tyrfa luosog iawn yn y tŷ i ddangos eu caredigrwydd diweddaf i'w hen gymydog a brawd. Cyflawnwyd y gwasanaeth yn y tŷ gan yr ysgrifenydd, yna aeth y cynhebrwng i gapel y Nant, pryd y pregethwyd gan yr ysgrifenydd yn Gymraeg, a chan y Parch. R. Everett yn Saesoneg; wedi hyny rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn ochr ei briod hyd foreu caniad udgorn yr Archangel.

Fe allai nad anfuddiol fyddai gair o sylw ar gymeriad yr hen frawd wedi ei ymadawiad, o herwydd dywed Solomon fod Coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig - a hyny, mae yn debyg, am ei fod yn fendith i eraill trwy eu dwyn i'w efelychu.

Brodor ydoedd G. E. Griffiths, o Bryncroes, Sir Gaernarfon. Ymfudodd i'r wlad yma yn y flwyddyn 1818, ac ymsefydlodd yn ardaloedd Remsen. Yn y flwyddyn 1824 prynodd dyddyn yn mhlwyf Trenton, yr hwn oedd y pryd hyny yn nghanol y goedwig, yn mha le y treuliodd weddill ei ddyddiau, ac y magodd deulu lluosog, sef 14 o blant - 9 o feibion a 5 o ferched, y rhai sydd oll yn fyw.

Ond meddai gymeriad, yr hyn sydd yn annibynol ar amgylchiadau. Fel gwladwr yr ydoedd yn hynod yn ei gymydogaeth. Yr ydoedd yn gymydog yn ei lawn ystyr, ni byddai byth yn rhy hwyr ganddo i wneyd cymwynas; ni fyddai ei ddrws byth yn gauad, na'i blant gydag ef yn y gwely i droi ei gymydog draw. Fel gwrandawr yr efengyl, gwir iddo dreulio blynyddoedd boreuaf ei fywyd heb wneyd proffes o'r Gwaredwr, er ei fawr ofid yn ei flynyddoedd diweddaf; ond yr ydoedd yn wrandawr cyson ac effro iawn, ac yu hynod o ffyddlawn gyda yr Ysgol Sabbothol, fel y mae y genedl ieuanc yn ardal y Nant yn ei gydnabod yn dad iddynt yn yr Ysgol Sul. Er ei fod yn un o'r darllenwyr goreu, gallai wneyd ei hun yn blentyn yn nghanol y plant, yr hyn sydd yn gamp fawr i blant Adda.

Ysgrifenodd, blynyddoedd yn ôl, bethau o duedd grefyddol, amryw i'r Cyfaill, yr hwn a bleidiai yn wresog. Fel crefyddwr wedi iddo ymgyflwyno yr ydoedd a'i holl egni, - yr oedd ei holl galon yn y gwaith. Nid yn unig rhoddodd ei enaid iddo i'w gadw, ond rhoddodd ei hunan yn ei lafur, ei amser, a'i arian. Yr oedd cyfranu at achos crefydd yn ei gwahanoi gysylltiadau yn hyfrydwch iddo, a bydd ei enw yn cael ei goffa gyda pharch yn ei gysylltiad ac adeiladu Capel y Nant. A gall gweinidogion y Methodistiaid yn Sir Oneida dystio iddynt brofi ei haelfrydedd, fel yr oedd pob lle i gredu fod ei galon ef yn y gwaith yn ei fywyd, a phan yr oedd yn nesu i farw ymddengys fod gwaith Yspryd yr Arglwydd yn ei galon yntau. Pan wedi myned ya wael iawn, ei hoff benill oedd hwnw -

"Duw a dyn yn gwaeddi digon,
Yn yr Iesu'r Aberth hedd."

A chynghorai ei blant i orphwys ar yr Aberth difai. A phan yn rhydiau yr afon symudai ei wefusau, gwrandawai ei ferch a chlywodd ef yn sibrwd yr hen benill, "Dyma gyfaill haeddai garu. a.y."
R. F. JONES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1862.