MRS. SARAH HUGHES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mrs. Sarah Hnghes, priod y diweddar William Hughes, Penymynydd, Steuben, a fu farw Hydref 9fed, tua 70 mlwydd oed.Merch ydoedd i Robert ac Elinor Arthur, Ty'n y Graig, plwyf Rhiw, Lleyn, Swydd Gaernarfon. Bu tŷ ei thad a'i mam yn llety cysurus i bregethwyr yr efengyl dros lawer o flynyddoedd. Mr. John Jones, Brynllefriih, gweinidog ffyddlon Capel Nebo a manau eraill, a fu yn byrddu yno amryw flynyddoedd. Mwynhaodd yu helaeth addysg grefyddol yn more ei hoes. Hoffai dŷ Dduw a chymdeithas y rhai rhinweddol y blynyddoedd hyny, ac ymhyfrydai lawer mewn canu mawl, i'r hyn yr oedd iddi lais peraidd, a phrhaodd ei hoffder mewn canu trwy ei hoes.
William Hughes a'i briod a fuont byw dros beth amser ar ôl priodi yn Ty'n-y-mynydd, ac oddiyuo yr ymfudasaut i America yn ngwanwyn y flwyddyn 1823. Buont byw tua 6 mlynedd yn Floyd, yna symudasant i ardal Penymynydd, Steuben, lle y treuliasant weddill eu dyddiau. Mr. William Hughes a fu farw yn mis Chwelror, 1840, gan ei gadael hi yn weddw gyda thylwyth lluosog i o blant.
Gwelir crybwylliad am ei farwolaelh ddedwydd yn Nghenhadwr Mawrth, y flwyddyn hono.
Ymunodd Mrs. Hughes gydag achos yr Arglwydd a derbyniwyd hi yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Penymynydd, dan weinidogaeth R. Everett, yn yr haf cyntaf ar ôl marwolaelh ei phriod, a pharhaodd yn aelod ffyddlon o'r eglwys hono hyd angau. Yr oedd yn un o dymer addfwyn a llariaidd, a thirion wrth bawb, yn dra chymeradwy fel gwraig rinweddol a chymydoges siriol yn ei hardal, ac yn fam anwylaidd a gofalus iawu yn ei theulu. Glynodd yn ffyddlon gyda moddion gras, yr efengyl a'i hordinhadau oeddynt hyfrydwch iddi. Tra gwylaidd ydoedd yn adrodd ei phrofìad, ond eto yr oedd yn hyderus yn yr Arglwydd ac yn nghadernid ei allu ef, fel ei Hachubydd a'i Gwaredwr.
Ni bu ei chystudd ond tua 9 neu 10 diwrnod. Yr oedd wedi dyfod i dŷ ei merch Margaret a'i mab ynghyfraith, Tŷ Coch, Steuben, i fod yn gyfleus, fel y tybiai, at y Gymanfa; ond cyn y Gymanfa yr oedd wedi ei tharo â chlefyd angeuol. Bu farw yn dawel a dedwydd yn y mwynhad o'i hyder yu Nghrist Iesu.
Claddwyd hi yn mynwent Penymynydd, a gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y brodyr E. Humphreys, J. R. Williams a R. Everett.