MR. JOHN W. JAMES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gorphenaf 26ain, Mr. John W. James, o ger Penygraig, plwyf Remsen.Dyoddefodd gystudd poenus am lawer o flynyddoedd, yr hwn a derfynodd ei fywyd yn 67 mlwydd o'i oedran.
Yr oedd yn ymfudol o Neigwi Plas Lleyn, sir Gaernarfon, Bu farw yn y mwynhad o gysuron y grefydd a broffesodd dros lawer o flynyddoedd.
Gadawodd i alaru ar ei ôl ei weddw a thri o blant o'i wraig gyntaf. Gweinyddwyd yn ei gladdedigaeth gan y brodyr J. W. James, E. Salisbury, a R. Everett