MR. GRIFFITH G. JONES, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 20fed, yn mhlwyf Trenton, swydd Oneida, yr henafgwr Griffiíh G. Jones, Farm, yn 86 mlwydd oed er y 14eg o Awst diweddaf.

Mudodd i'r wlad hon o Laniestyn. Lleyn, yn y flwyddyn 1801.

Yr oedd yn un o hen sefydlwyr y sefydliad Cymreig yu swydd Oneida. Claddwyd ef wrtb ochr ei briod mewu claddfa oedd wedi ei dewis ganddo ar y ffarm, a gweinyddwyd gau y brodyr D. J. Williams, M. Roberts, a R. Everett.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1862.