MRS. MARGARET JONES, QUAKER HILL, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gwraig ydoedd i Samuel T. Jones, Quaker Hill, Sir Oneida, New York, yr hon a fu farw Awst 16eg, 1862.Merch ydoedd i John a Margaret Williams, gerllaw Delta, Sir Oneida. Yr oedd yn enedigol o blwyf Llaniestyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Ymfudodd gyda'i rhieni i'r wlad hon yn 1852. Ionawr 7fed, 1857, ymunodd mewn priodas â Samuel T. Jones. Ganwyd iddi dri o blant, dau o ba rai sydd yn fyw; yr ieuengaf yn fis oed ar ddydd ei marwolaeth hi. Gorphenaf 16eg, 1862, ganwyd iddi ei phlentyn diweddaf, a'r 24ain, o'r un mis tarawyd hi a'r palsy, yr hwn a effeithiodd yn ddwys ar ei phen ac ar un ochr iddi. Nis gallodd siarad yr un gair mwy tra y bu yma. Ar y 14eg o Awst, ail darawyd hi nes ei hollol ddiffrwytho, a bu farw yr 16eg o'r un mis, yn 36 mlwydd oed.
Yr oedd yn aelod dichlynaidd gyda'r T. C. er 1853, ac yr oedd ei hymarweddiad yn dangos ei bod yn feddianol, nid ar broffes yn unig, ond ar rym duwioldeb. ac y mae yn debyg y buasai dda ganddi allu dyweyd gair o'i theimlad wrth adael y byd, a buasai dda gan ei phriod ac eraill ei chlywed; ond yr oedd ei thafod wedi ei rwymo. Nodweddid hi gan dymer lled ddifrifol, ond nid yn sarug, a byddai yn ofalus iawn rhag archolli teimladau eraill. Meddai lywodraeth dda ar ei thymer; ni oddefai iddi fyned yn afreolus, ond cadwai hi yn addfwyn a gostyngedig.
Yr oedd yn gwarcbod gartref yn dda - heb absenu a'i thafod, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei chymydog. Yr ydoedd yn hynod am ei gonestrwydd a'i chymwynasgarwch - yn caru gwneuthur daioni i bawb, yn enwedig i'r rhai sydd o deulu y ffydd. Byddai y byd yn fwy dedwydd ped ei hefelychid hi yn ei rhinweddau. Mae ei choffadwriaeth yn fendigedig gan y rhai a'i hadwaenant, ac y mae gweled ei chymydogesau yn wylo wrth gwyno ar ei hol yn dangos pa fodd yr oedd yn sefyll yn ei chymydogaeth ei hun.
Ar y 18fed hebryngwyd ei gweddillion marwol i fynwent Westernville, gan dyrfa luosog. Gweinyddwyd ar yr acblysur gan y Parch. Thos. T. Evans. Heddwch fyddo i'w llwch.