MR. ROBERT G. JONES, PENYGRAIG, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mab ydoedd Mr. Jones i Griffith a Gwen Jones, Glan y Gors, Aberdaron, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymry.

Ymfudodd o'r hen w!ad yn nheulu ei rieni yn y flwyddyn 1801. Ymsefydlasant ar un o fryniau Steuben, mewn lle a elwir Y Gareg Fawr.

Yn 1820 ymbriododd ag Elizabeth Prichard - gwel ei Chofiant yn y Cyfaìll am 1853, tudalen 197. Bu yn proffesu crefydd oddeutu 32 o flynyddau gyda y T. C. yn Pen-y-Graig, Remsen. Yr oedd yn byw yn agos at y capel, a'i ysgwydd yn dyn o dan yr arch. Nid llawer a ddywedai, ond gwnai lawer yn ddystaw a thawel. Un ffyddlawn, a ffyddlawn iawn oedd, a diau i'r gair hwnw ei gyrhaedd, " Da, was da a ffyddlawn."

Yr oedd ei dŷ yn agored bob amser at achos yr Arglwydd - byddai pob pregethwr gartref pan ddeuai i'w dŷ ef - caent ymgeledd gymhwys, a'r anifail hefyd. Ni adwaeuai neb pregethwr yn ôl y cnawd, gwahoddai ef y bach fel y mawr, a hyny yn ddirodres, fel y gwyr pregethwyr sir Oneida yn dda. Ychydig o amser yn ôl anrhegodd eglwys Pen-y-Graig â dernyn o dir i adeiladu tŷ perthynol i'r capel arno, yr hyn a wnaed, ac y mae yn gyfleus iawn. Un hynod ddi-absen oedd ef; dywedai yr hyn a ddywedai yn eich wyneb. Un cywir ydoedd, hyd eithaf ei wybodaeth ni fynai, os gwyddai, wneud cam â neb. Yr oedd yn gymydog heb ei well, a theimlir colled ar ei ôl nad ellir ei hadfer yn fuan.

Ond hyderwn yn gryf fod ein colled ni fel eglwys yn elw tragywyddol iddo ef, a'i fod wedi myned oddiwrth ei waith at y wobr. Gellir dweyd am dano, Efe a ymdrechodd ymdrech deg, efe a orphenodd ei yrfa, ac a gadwodd y ffydd; o hyn allan ca wisgo y goron.

Gellid ymhelaethu llawer mewn perthynas i ein hanwyl frawd ymadawedig; ond rhaid terfynu gyda dweyd, efe a aeth i'w orphwysfa nos y 20fed o Chwefror, yn ei iechyd arferol. Cafodd y teulu ef oddeutu 6 o'r gloch boreu dranoeth wedi ei daro gan yr apoplexy, - cafwyd meddyg yn ddi-oed, eithr y cwbl yn ofer, - tua 3 o'r gloch prydnawn hwnw, Chwefror 21, bu farw, oddeutu 74 mlwydd oed, gan adael ar ei ôl 6 o blant mewn dwys alar o herwydd colli tad tyner a gofalus.

Ar y 24ain ymgynullodd tyrfa o'i gyfeillion i dalu y gymwynas olaf idd ei weddillion marwol. Claddwyd ef yn mynwent Pen-y-Graig, lle yr oedd ei briod a rhai plant iddo yn gorwedd.

Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brodyr Thos. T. Evans ac Ebenezer Salisbury.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1862.