MRS. ELIZABETH PARRY, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Awst 16eg, yn Remsen, Caerefrog Newydd, yn 70 mlwydd oed, Elizabeth, gwraig Owen Parry, a mam gwraig Golygydd y CYFAILL.Yr oedd yn ferch i John Thomas, Tanybryn, Llanllyfni, Sir Gaernarfom. Daeth i'r wlad yma, gyda'i gwr a'i phlant yn y flwyddyn 1831. Buont yn byw am dymhor yn ardal Penygraig, Sir Oneida, oddiyno aethant i ardal Ixonia, Wisconsin, a dychwelasant i Benyrallt, ger pentref Remsen, o'r lle y symudasant i'r pentref hwnw, lle y gorphenodd hi ei thaith ddaiarol.
Bu yn aelod gyda'r T. G. am rai blynyddoedd; yr oedd yn ddynes mwy gwrol na'r cyffredin, gonest a di-dderbyn wyneb. Ei hunig obaith wrth farw oedd
"Yr Iawn a dalwyd ar y Groes."
Bu yu gwaelu am yn agos i flwyddyn, ond tua thair wythnos y bu yn gorwedd. Ar y 18fed, hebryngwyd ei chorff gan orymdaith faith i gladdfa y T. C. yn Mhenygraig, y Brodyr E. Salisbury yn gweddio a W. Rowlands yn pregethu, yn unol â chais y drengedig cyn eí marw, ar yr achlysur.