MR. HUMPHREY ROBERTS, MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 7fed, yn Marcy. Efrog Newydd, Humphrey Roberts, yn 61 mlwydd ac 8 mis oed. Cafodd ei daro gan y palsy, a bu am oddeutu chwech wythnos heb allu siarad.

Ei le genedigol ydoedd Ynysleìci, plwyf Llanarmon, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ymunodd mewn priodas â Catharine Owens, merch i Mr. Thomas Owenns, Llangybi. Bu iddynt dri o blant. pa rai sydd oll yn fyw.

Symudasant i America yn y flwyddyn 1831, a sefydlasant yn Marcy sir Oneida, Efrog Newydd, lle y gorphenodd ei yrfa ddaiarol. Ymunodd ag achos lesu Grist yn Tabor, Marcy, gyda'r Bedyddwyr y pryd hwnw dan ofal gweinidogaethol y Parch. James Harris, ond yn awr dan ofal y Parch. Hugh Hughes.

Gellir dweyd am dano ei fod yn briod serchog, yn dad tyner a gofalus, yn gymydog tawel a chymwynasgar; yn Gristion dirodres a gonest. Nid oedd ganddo ddawn mawr, ond myfyrdod diwyd. Carai i'w frodyr yn yr eglwys gymeryd y flaenoriaeth; cynorthwyai yntau â'i ocheneidiau. Arferai weddio llawer yn y dirgel, a phan y daeth afiechyd dangosai trwy arwyddion ei fod yn dal cymdeithas â'i Dduw.

Ar ddydd ei angladd ymgynullodd tyrfa luosog o Gymry a Saeson i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref i fynwent y Trefnyddion Esgobawl ar ffordd yr Afon, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. Edred Jones, Utica, a'r ysgrifenydd. Bydded fod yr Hwn sydd Dad amddifaid a Barnwr y gweddwon i ofalu am y teulu galarus, eu cynal yn nhaith yr anial, a'u dwyn yn ddiogel o gyrhaedd pob gelyn i mewn i ogoniant y Nef.
EI NAI, J. R. GRIFFITH.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1862.