MR. JOHN E. THOMAS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

John E. Thomas ydoedd fab i Evan a Margaret Thomas, Gwyddel Uchaf, plwyf Aberdaron, Swydd Arfon, Gogledd Cymru. Ganwyd Mrs. Evans, ei wraig, hefyd yn yr un plwyf.

Ymfudasant i'r America yn y flwyddyn 1818. Bu iddynt wyth o blant, pedwar mab, a phedaìr merch. Cafodd dau eu geni yn Nghymru, a'r lleill yn y wlad hon. Maent oll yn fyw, a'r rhan amlaf o honynt yn aelodau heirdd yn eglwysi y saint. Nid yw Duw yn anghofio ei addewid - "Tywalltaf fy Yspryd ar dy hâd, a'm bendith ar dy hiliogaeth." Dygir y meibion yn lle y tadau, a'r merched yn lle y mamau, i lenwi y bylchau a chau yr adwyau a wneir gan angau yn myddin y saint.

Yr oedd iechyd ein brawd wedi gwaelu llawer y flwyddyn ddiweddaf, ei olwg yn pallu, nes oedd bron yn hollol dywyll. Fel y mae cariad at fywyd yn reddf hanfodol yn y cyfansoddiad dynol, felly meddyliodd Mr. T. am fyned i New York, at feddyg medrus a deallus, ond methodd ei gyfansoddiad ddal yr orchwyliaeth. Eithr fel y mae ffyrdd a llwybrau Duw uwchlaw llwybrau a ffyrdd dyn, bwriad ein hanwyl frawd oedd myned yno i gael gwella am ychydig; ond bwriad ei Dad Nefol oedd iddo fyned yno i farw. Mae y lle, yn nghyd ag amser ein marw wedi ei drefnu "gan yr Hwn sydd yn gweithio pob peth yn ôl cynghor ei ewyllys ei hun." Nid yw o bwys mawr pa le y byddwn feirw, pa un ai gartref ai oddi cartref - pa un ai yn mysg estroniaid ai yn mysg ein perthynasau, daw yr enaid hyd i'w gartref pa le bynag y trenga y corff; ond mae o dragywyddol bwys pa fodd y byddwn feirw, pa un ai yn Nghrist, ai allan o hono - pa un ai mewn ffydd ai mewn anghrediniaeth. Er na chafodd ein brawd farw gartref, cafodd farw yn nghanol ei berthynasau; yn ei holl gystudd, yr oedd ei blant yn gweini iddo, ac yn ofalus am dano. Bu y Parchedigion William Roberts, New York, a Morris Roberts, Remsen, yn ymweled ag ef, yn darllen gair Duw iddo, ac yn gweddio hefyd drosto, yr hyn oedd yn adloni ei feddwl yn fawr iawn; ond yr oedd cael Iesu yn well na phawb, ac na phob peth.

Yr oedd Mr. Thomas yn aelod ffyddlon gyda'r T. C. yn Remsen, a theimlir colled dirfawr ar ei ól. Rhoddodd yr Arglwydd i'n brawd "yn ei dy ac o fewn ei fagwyrydd le, ac enw gwell na meibion ac na merched." Bu yn aelod hardd yn Eglwys Dduw am flynyddoedd lawer, a bu yn addurn i'w broffes. Ni thrôdd allan wedi dyfod i mewn - arosodd yno hyd angau. Yr oedd ganddo barch neillduol i weinidogion yr efengyl; cyfrifai hi yn fraint cael eu croesawu a'u lletya; gwnai gyfrif mawr o honynt er mwyn eu gwaith i'w Meistr mawr : dysgodd ei blant i'w parchu hefyd. Yr oedd yn ffyddlon at achos y Gwaredwr yn ei holl gysylltiadau; yr oedd Duw wedi ei lwyddo a'i fendithio â modd i roddi a chyfranu; a mwy na phob peth y byd hwn, yr ydym yn credu fod ganddo olud gwell yn y Nefoedd, ac un parhaus - golud na chollir, ac na adewir i ereill ar ól. Yr oedd hefyd yn hynod ffyddlon i ddilyn moddion gras ac ordinhadau crefydd - anaml y byddai ei le yn wag - nid oedd yn euog o esgeuluso cydgynulliad y saint.

Yn ngwyneb colli ein cyfeillion a'n perthynasau crefyddol drwy angau, mor werthfawr i ni ydyw yr efengyl, sydd wedi dwyn bywyd ac anllygredigaeth i oleuni!

Yr oedd ei symudiad ef yn debyg i dderchafiad Elias ar unwaith yn ngherbyd Israel a'i farchogion adref i balas ei Dad. Ni raid i neb dristâu fel y Paganiaid sydd heb obaith gweled eu cyfeillion mwy, "oblegid y rhai a hunasant yn yr Iesu a ddwg Duw hefyd gyd ag ef."

Er na chawsom gyfleustra i wrando profiad ein hanwyl frawd "pan oedd yn tynu at ymyl y dwr." 'Bron gadael yr anial yn lân,' yr oedd wedi llefaru yn ddigon uchel yn ei fywyd, mewn buchedd gymeradwy, ac oes wedi ei chyflwyno i Grist; a thrwy bwyso yn unig ar ei Aberth, a'i waed, a'i haeddiant Ef, i'w wneyd yn "gymeradwy yn yr Anwylyd." "efe a aeth i dangnefedd."

Y mae y Nefoedd yn myned yn anwylach genym o hyd - mae nifer ein cyfeillion yno yno yn cynyddu, yn lluosogi. Yr un fraich Ddwyfol ag a'i cynnaliodd hwy a all, ac a wna, ein cynnal ninau yn ddigwymp hyd yn nheyrnas nef. Heddwch i'w lwch i orphwys a huno hyd y boreu y daw Iesu gyda bloedd a llef yr Arch-angel, ac ag udgorn Duw. Yna y beddau a egyr - y meirw a gyfodir, a'r saint byw a newidir ar darawiad llygad, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod a'r Argiwydd yn yr awyr. (Nid adgyfodi i fod ar y ddaear am fil o flynyddoedd), ond i gyfarfod a'r Arglwydd yn yr awyr, ac felly y byddwn yn wastadol gyda'r Arglwydd.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1862.


MR. JOHN E. THOMAS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yn briod â Anne Jones o Aberdaron Chwefror 1af 1816.

Ymfudo yn 1818 gyda dau o blant.

Y ddau wedi'u claddu ym mynwent Cobin Nant, ac ysgrif ar y bedd yn annodd i'w ddarllen, ond yn ymddangos fel :
"Ymfudo o Gwyddel Uchaf, Aberdaron, Lleyn, Sir Gaernarfon yn 1818."

Glyn Roberts ~ Medi 2021.