MR. OWEN W. THOMAS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 8fed, yn Trenton, Swydd Oneida, yn 27 mlwydd oed, Mr. Owen W. Thomas, genedigol o Bethesda, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1857, ac ymsefydlodd yn Middle Granville, New York, ac yno y gwnai ei gartref. Symudodd oddi yno y 4ydd o Orphenaf, 1862, i gymydogaeth Trenton, lle y bu am yspaid yn codi ceryg at adeiladu y bont fawr sydd gerllaw y pentref uchod.

Ar y 27ain o Dachwedd cymerwyd ef yn glaf; gafaelodd y clefyd peryglus, sef y Typhoid Fever ynddo, ac ni ollyngodd ei afael nes iddo huno yn yr angau.

Yr oedd yn aelod gyda y Trefnyddion Calflnaidd, ond o herwydd anghyfleusdra ymunodd a'r brodyr Annibynol, ac yr oedd yn barchus yn eu plith. Byddai yn hoff iawn o gerddoriaeth, ac wedi cael ei ddonio i wneyd daioni i'w genedl yn y ffordd hono. Ac ni bu yn segur - ni chuddiodd y dalent a dderbyniasai gan ei Arglwydd. Gadawodd Dad a mam, a chwaer i alaru ar ei ôl, ac oll yn Nghymru; ac er nad oedd yn mysg ei deulu, eto cafodd driniaeth dda a gofal tyner yn ei gystudd diweddaf gan Mr. Jonathan Jones a'i deulu parchus - yr ydym yn credu y derbyniant eu gwobr.

Ar y lOfed hebryngwyd ei weddillion marwol i gladdfa y Cymry, ger y Capel Ucha', Steuben, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Brodyr D. Williams, [B.], D. C. Evans, [T. C.], a'r Dr. Everett, [A.]
R. E. JONES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1863.