MRS. DOROTHY GRIFFITHS, BELLAMONTE, PENNSYLVANIA.
Gorphenaf y 25ain. yn Bellemonte, yn agos i Port Carbon, swydd Schuylkill, Pennsylvania., yn 56 mlwydd oed, Mrs. DOROTHY GRIFFITH, (gwraig Mr. T, Griffith.)Gadawodd briod hoff a thri o blant i alaru eu colled ar ei hol.
Bu yn aelod hardd yn Nghyfundeb y Trefnyddion Calfmaidd dros 27 o flynyddoedd.
Ymunodd â chrefydd mewn lle a elwir Brynengan, plwyf Llangybi, swydd Gaernarfon, Cymru.
Ymfudodd hi a'i theulu o Gymru i'r America yn y flwyddyn 1831, a buont yn aros ryw faint yn ninas Caerefrog-Newydd.
Dioddefodd gystudd blin ers amryw flynyddoedd, yr hyn a'i hanalluogodd i fyned i foddion gras i addoli Duw, gyda'i brodyr a'i chwíorydd, ond yn anaml.
Er yr holl driniaeth a gafodd, yr oedd ei gobaith yn gryf. Darllenai lawer ar y Beibl a myfyriai lawer ynddo. Derbyniodd gysur cryf, a chafodd lawer gwledd felus wrth ddarllen y ' PREGETHWR.'
Darllenodd y llyfr hwnw lawer gwaith drosodd. Dangoswyd llawer iawn o ffyddlondeb gan frodyr crefyddol o wahanol enwadau, sef Annibynwyr, Bedyddwyr, a Threfnyddion Calfinaidd yn eu dyfodiad i ymweled â hi yn ei chystudd, a dyfod a chyfarfodydd gweddi i'r tŷ ati.
Y nos Iau diweddaf y bu byw yr oedd y Brodyr yr Annibynwyr wedi cyhoeddi cyfarfod gweddi yn nhŷ Mrs. Griffiths, ond yr oedd hi wedi cyfnewid yn fawr, yn rhy glâf i'r Brodyr ddyfod ati; ond anfonwyd atynt ar iddynt gofio amdani wrth yr Orsedd, oherwydd mai y tro olaf ydyw canys iach a fyddaf yn fuan.
Y 27ain, ymgynnullodd tyrfa luosog i dalu y gymmwynas olaf iddi, sef ei hebrwng i dŷ ei hir gartref, yn agos i ddau ar gloch prydnawn. Cyn cychwyn pregethodd y Brawd David Davies, a chladdwyd hi yn Mynwent y Bedyddwyr yn Pottsville. Anerchwyd y dyrfa ar lan y bedd gan y Parch. Wìlliam Morgans, gweinidog y lle.