MR. JOHN VAUGHAN, PLAINFIELD, OTSEGO COUNTY, NEW YORK.
Mai 6ed, yn Plainfield, Otsego County, New York, Mr. John Vaughan.Yr oedd yn enedigol o Benmachno, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.
Ymfudodd ef a dau o'i blant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1844, ac yn Utica yr arosodd ef a'i blant i ymladd a'r byd hwn yn y wlad eang hon, ac ni fu ef yn mhellach na Plainfield o gylchoedd Utica oddiar pan ddaeth i'r wlad.
Yr oedd Mr. Vaughan yn ddyn a berchid yn fawr gan bawb a'i hadwaeuai fel dyn gonest, dystaw, a heddychlon; ac fel dyn geirwir yr oedd pawb yn ymddiried i'w air; yr oedd i John Vaughan air da gan bawb. Fe fu Mr. Vaughan yn gwrando yr Efengyl gyda chysondeb ar hyd ei oes, y rhan flaenaf yn yr Hen Eglwys, a'r rhan olaf yn nghapeli y Methodistiaid Calfinaidd. Fe fu yr Efengyl yn ymryson â'i feddwl ef ar hyd ei oes, hyd y flwyddyn ddiweddaf ond un o'i fywyd, pryd y terfynodd yr oruchafiaeth o du yr Efengyl, a chyda y priodoldeb mwyaf y gallasai Mr. Yaughan ddywedyd,
"Ymleddaís a thrugaredd nes iddi 'nhaflu i iawr,
Trugaredd ga'dd y trecha, 'rwy'n foddlon iddi 'nawr."
Yn mis Mehefin, 1861, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o eglwys Crist, ac yn y flwyddyn 1862, ar y 6ed dydd o Fai, gorphenodd ei yrfa grefyddol a daiarol yn y byd hwn, yn 77 mlwydd oed. Dyoddefodd gystudd trwm am y tair blynedd diweddaf o'i oes; ei brif afiechyd oedd dolur y "gareg."
Ar y 7fed o Fai ymgynullodd torf luosog o Gymry ac eraill i hebrwng ei ran farwol ì dŷ ei hir gartref, yr hwn a gloddiwyd iddo yn y fynwent hyfryd sydd ar wastadedd Bridgewater. Gweinyddwyd ar yr achlysur, yn absenoldeb yr ysgrifenydd, gan y Parch. M. C. Brown, Unadilla Forks. JOHN S. ADAMS.