MRS. CATHERINE WILLIAMS, PROSCAIRON, WISCONSIN.
Awst 16eg, yn ardal Proscairon, Wisconsin, yn 37 mlwydd oed, Mrs. Catherine Williams, priod Mr. William R. Williams, Bont Newydd.Merch ydoedd i Robert Humphreys, Cae Haidd, Llandwrog, Gogledd Cymru. Yr oedd Mrs. Williams yn meddu ar gyfansoddîad corfforol tyner a lled wanaidd, ond o feddwl bywiog, tymer hynaws, ac ymddygiadau boneddigaidd. Yn y gauaf diweddaf ymgymerodd anwyd yn ei bron; ni thybiodd hi a'r teulu am unrhyw berygl, ond troes yn fath o gancr cyflym a phoenus, ac er medr a ffyddlondeb dau feddyg clodfawr, gwaethygu yn gyflym yr oedd, a therfynodd yn ei marwolaeth ar y Sadwrn uchod.
Bu farw gan adael priod serchog a thyner, a thair o enethod bychain, i deimlo eu colled am dani. Mae y gymydogaeth yn cydymdeimlo â hwy, gan ystyried mawr serchogrwydd a gofal Mrs. Williams fel priod a mam.
Dydd Llun, ymgynullodd torf fawr iawn o Gymry o'r ardal a'r cylchoedd i hebrwng y rhan farwol i fonwent Engedi, pryd y gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y tri pregethwr oeddent bresenol. Yn y tŷ cyn cychwyn, darllenodd a gweddiodd Mr. J. D. Williams, yr hwn 17 mlynedd yn ôl oedd un o'i phrif gyfeillion yn croesi y môr i'r wlad hon.
Yn y capel ger y gladdfa, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. John R. Daniels, a phregethodd y Parch. Thos. H. Roberts, oddiar 2 Cor. v. 1.