MR. DAVID WILLIAMS, PICATONICA, WISCONSIN.
Tachwedd 26ain, yn 68 mlwydd oed, David Williams. Ganwyd ef yn Ty'ny wern, plwyf Gyffin, Sir Gaernarfon. Mab ydoedd i Hugh ac Ann Williams, Pen y Bwlch.Bu yn aelod gyda'r T. C. am 28 mlynedd. Yr oedd yn ddyn goleu iawn yn yr Ysgrythyr; fel hanesyddwr, nid yn aml y ceir ei fath, yn ŵr goleu iawn, a dirodres: fe ddywedai y gwir hefyd wrth bawb yn ddidderbyn wyneb, yr un fath at y gwreng a'r boneddig. Bu ei afiechyd, sef yr Anadlwst, yn rhwystr mawr iddo yn ei ddyddiau olaf i fyned i foddion gras.
Claddwyd ei briod tua thri mis a phymtheg nos o'i flaen, cofiant yr hon sydd i'w weled yn y Cyfaill, am Tachwedd, 1862, tudalen 434. Gadawsant bump o blant i alaru ar eu hol.
Ymgasglodd torf luosog o Gymry i hebrwng ei weddillion i fynwent y Capel Ceryg, Picatonica, Wisconsin, y Parch. J. Davies yn gweinyddu ar lan y bedd, ac yn pregethu ar yr achlysur y Sabboth canlynol, oddìar Esa. xliv. 6.