MRS. MARY WILLIAMS, COLUMBUS, WISCONSIN.
Ionawr 4ydd, yn Cwmcloch, Columbus, Wisconsin. Mary, priod Williamm. E. Williams, yn dra disymwth. Pan newydd fwyta ei swper, wedi dod o'r oedfa nos Sabboth, fel arferol o iach, syrthiodd ar unwaith oddiar y gadair yn gwbl ddiffrwyth a diymadferth, heb ddim arwyddion bywyd ond anadlu am tua phymtheg mynyd; tybir mai y Parlys mud a'i tarawodd.Yr oedd yn agos i 33 mlwydd oed. Ymfudodd i'r wlad hon gyda'i rieni (Rowland ac Eleanor Jones, Glanrafon), o Lanrug, Arfon, Gogledd Cymru, yn 1845. Cafodd ei magu yn yr eglwys: derbyniwyd hi yn gyflawn aelod fìsoedd cyn dyfod o'r Hen Wlad, a bu yn gwbl ddiddolur gyda'r achos hyd ddiwedd ei hoes. Arferai warchod gartref gyda manylrwydd; ymgadwai rhag enllib a gwrachiaidd chwedlau, a byddai gyda y rhai olaf yn ymgymeryd â ffasiynau newyddion.
Yr oedd yn awyddus am ddilyn moddion gras. a chadw dyledswyddau teuluaidd i fyny yn gyson. Ni arferai honi profiad uchel, ond yr oedd ei chysondeb a'i gofal yn ein cymhell i obeithio y meddai wreiddyn y mater.
Priododd yn 1849 : bu iddynt chwech o blant; nid oes ond tri o honynt yn fyw. Bu un farw yr hâf diweddaf, - gwel y Cyfaill, tudalen 359. Nid oedd yr ieuangaf ond 5 mis oed. Ond ar yr alwad yr oedd raid gadael yr oll, - ei mam yn hen ac unig, ei phriod yn weddw, ei phlant ieuainc yn amddifaid, a hithau heb hir gystudd yn fantais (?) i ddarparu at y daith : doethach yn ddiau yw defnyddio anfantais (?) iechyd, i ymbarotoi, o herwydd yn yr awr ni thybiom y daw Mab y dyn.
Cynullodd tyrfa fawr ar yr 8fed i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref, yn mynwent Bethel, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. John J. Roberts.