MRS. MARGARET JONES, DEERFIELD, ONEIDA, EFROG NEWYDD.

Yn Deerfield, swydd Oneida, C. N., Hydref y lOfed, Mrs. Margaret Jones, mam Thos. Jones, a John R. Jones, Utica, a mam-yn-nghyfraith i John Watkins, Deerfield, yu 83 mlwydd oed.

Yr oedd Mrs. Jones yn enedigol o Lanuwchllyn, Gogledd Cymru. Yr oedd yn arddel crefydd lesu Grist er ys tua 32 o flynyddoedd, yr oedd yn un o ddeiliaid y Diwygiad mawr yn Llanuwchllyn tua'r flwyddyn 1809, a derbyniwyd hi yn aelod o'r Eglwys Annibynoi yn y lle hyny gan y Parch. Dr. Lewis.

Ymfudodd i'r America ddeng mlynedd i'r haf diweddaf, ac ymunodd trwy lythyr â'r Eglwys Gynnulleidfaol yn Utica, a chafodd y fraint o lynu gyda'r Achos mawr hyd ei diwedd.

Yr oedd diwedd ei bywyd daearol yn cael ei ddarnodi gan dawelwch a chysur mewn ystyr dymhorol ac ysbrydol. Yr oedd ei hiechyd yn dda ac ystyried ei hoedran, a'i breintiau crefyddol yn ei hiaith gynnefin, yn helaethion, a chysurus.

Tua thair wythnos cyn ei marwolaeth aeth i Deerfield i ymweled a'i merch a'r teulu. Nid oedd yn hollol mor iach ag arferol, ac fel y deallwyd wedi hyny, yr oedd y cystudd o'r hwn y bu farw wedi dechreu ei waith eisoes yn y babell briddlyd. Yr oedd ei chystudd o'r fath fel nad oedd gweithrediadau ei meddwl yn hollol mor reolaidd ag arferol hyd o fewn ychydig oriaù cyn ei hymadawìad, pryd y cafwyd lle hyderus i feddwl fod ei mynwes yn dawel, a'i henaid yn ymorphwys yn ddiysgog ar y Gwaredwr mawr.

Rhoddwyd ei rhan farwol yn y bedd yn mynwent Utica, Hydref y 12fed, a phregethodd y Parch. James Griffiths, ar yr achlysur.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1841