MR. RICHARD WILLIAMS, ROSE HILL, WISCONSIN.
Ionawr laf, 1863, (Marwolaeth Mìlwr), yn Danville. Kentucky, Richard Wilìiams, ieu. o'r Tâniddwyf (Erysipelas), yn 20 mlwydd oed.Mab ydoedd i Ríchard ac Ann Williams, Rose Hill, cymydogaeth Blaen y Cae, Wisconsin, gynt o Lanfairfechan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Cludwyd ei weddillion i Cambria gyda'r Erpress, a chladdwyd ef ar y 7fed o'r mis yn mynwent Engedi. Er iddo farw mewn gwlad bell a dyeithr, eto, ac a gladdwyd yn meddrod ei dadau.
Gweinyddwyd ar yr achlysur yn dra phriodol gan y Parchedigion Thomas H. Roberts, John R. Daniels a Thomas Phillips. Yr oedd amryw bethau yn y bachgen hwn yn werth eu cofnodi. Yr oedd yn hoff o ddarllen y Beibl, yn llafurio yn egnîol am ei ddeall, fel ag yr oedd yn feddiannol ar wybodaeth helaeth o'r Ysgrythyrau, yr hyn a roddodd fodd iddo orchfygu temtasiynau ag y mae ieuenctyd yn agored iddynt, yn enwedig wrth ystyried y sefyllfa yr oedd ef ynddi wrth ei alwedigaeth, sef mewn masnachdy eang. Mis Awst diweddaf, ymrestrodd yn yr 22ain Gatrawd Wisconsin. Ei swydd ydoedd goruchwyliwr yn yr Ysbytty, ac fel y cyfryw llanwodd ei le er boddhad cyffredinol. Teimlai y gatrawd golled ar ei ôl, gan ei fod bob amser yn barod i weinyddu arni yn ei hafiechyd. Nid oedd dim yn ormod ganddo wneyd i'r cleifion; ac mae yn debyg mai trwy arnoethiad (exposure) gormodol yr achoswyd mewn rhan ei glefyd, yr hwn a drôdd yn angeuol iddo.
Nid yn unig yr oedd yn ffyddlon i gyfranu cyffeiriau meddygol at angenrheidiau y corff, ond yr oedd yn ofalus am gyfeirio meddyliau y cleifion at yr Hwn y mae meddyginiaeth yn ei esgyll, ac yn ei gleisiau iachâd. Ymddengys fod cyrddau eglwysig, ac Ysgol Sabbothol wedi eu sefydlu yn y gatrawd; ac yn ôl tystiolaeth llawer o'r milwyr, dywedir ei fod yn un o'r rhai ffyddlonaf; ni byddai byth yn colli y moddion.
Yn ei lythyrau at ei berthynasau, dywedai ei fod yn cael mwy o bleser yn moddion gras nag mewn unrhyw le arall. Dywed mai yn y fyddin yr oedd y lle goreu a welodd erioed i brofi crefydd. Ni chafodd y fath olwg ar ddrwg pechod erioed cyn hyn. Yma mae annuwioldeb megys yn ei berffeithrwydd; ac er fod maes y gwaed mewn un ystyr yn nês i'r byd arall, a'n milwyr yn sefyll megys ar geulanau y byd hwnw, mae yn alarus meddwl fod y mwyafrif o honynt yn anystyriol er hyny. Ddarllenydd, gweddia dros y milwyr, y mae nifer mawr o honynt yn annuwiol, ac efallai yn syrthio yn anamserol i ddwylaw y Duw byw. Dywedai fod yr adnodau a ddysgodd ei fam iddo yn ei feddwl yn barhaus, ac yn peri llawer o gysur iddo, ie, yn rhagori ar newyddion da o wlad bell, gan eu bod yn sefydlog, yr oeddent fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistr y gynulleidfa.
Gellir dweyd iddo farw yn ei arfogaeth, a'i gleddyf wrth ei glun, ac nid yn nhir y gwrthgiliad. Yr ydym yn credu iddo fyned trwy angau i uno a'r fyddin orfoleddus, ar hyd y ffordd a agorodd y Pen rhyfelwr mawr i'w fyddin filwriaethus i'w ddilyn, a hono wedi ei chysegru â'i waed ei hun. Dyma ryfeddod na wnaeth yr un cadfridog erioed. Pan y mae angau yn gweled ei wrthddrychau yn gwisgo unweddisg (uniform) byddin yr Oen, y mae yn cyfnewid o fod yn elyn i fod yn gyfaill - o fod yn ddychryn yn llawenydd. Y mae y Cristion yn ei gofleidio fel cymwynasydd caredig ar y ffordd wrth fyned adref, ac yn yr olwg arno yn llefain, " Angau â lyncwyd mewn buddugoliaeth." "Byw i mi yw Crist, a marw sydd elw.
W. T. P.