CAPT. RICHARD ELLIS, CINCINNATI.

Medi 5ed, yn Vicksburgh, ar y Great Western Magazine Boat, ar ôl wyth niwrnod o gystudd blin o'r Dwymyn Typhoid, Cadben Richard Ellis, Cincinnati, yn 52 mlwydd oed.

Yr oedd Mr. Ellis yn fab i Mr. Humphrey Ellis, Pwllheli, Sir Gaernarfon, yr hwn oedd yn flaenor parchus gyda'r T. C. Ymfudodd i America er ys tua 26 mlynedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn y ddinas hon, gan ddilyn ei orchwyl ar yr agerfadau ar yr afonydd, yr hyn ydoedd fwyaf cyson â'i deimlad fel morwr.

Ymroddodd i wasanaeth ein Llywodraeth er ys agos i ddwy flynedd yn ôl, a thrwy ei ffyddlondeb a'i fedr, dyrchafwyd ef i fod yn Gadben ar y bâd uchod. Aeth trwy lawer o beryglon heb dderbyn dim niwed, ac yn nydd tawelwch a diogelwch cynarol, ar ôl cymeriad Vicksburgh, wele y clefyd uchod yn ei ladd mor ddisymwth. "Yn yr awr ni thybiwn y daw Mab y dyn," Yr oedd Mr. Ellis yn ddarllenwr mawr, ac yn hynod hoff o lenyddìaeth grefyddol - yn dderbyniwr o'r Cyfaìll o'i ddechreuad - yn hynod gofus, ac helaeth ei wybodaeth Ysgrythyrol; meddai barch mawr i grefydd, sêl o blaid yr athrawìaeth sydd yn ôl duwioldeb, a hoffder mawr i ymddyddan am weinidogion yr efengyl, a chrefydd yn ei holl gysylltiadau; ac yr oedd yn gyson yn ei ddilyniad o foddion gras, yn ôl eithaf caniatâu ei amgylchiadau.

Yr oedd wedi ei ddewis i arwain yn narlleniad y gwasanaeth crefyddol, yn ôl trefn yr Eglwys Esgobaethol, ar y bâd, gan nad oedd ganddynt Gapelwr. Meddai gymeriad difrycheulyd iawn, a pherchid ef yn fawr yn mhlith ei adnabyddiaeth.

Y mae gweddw a thri o blant ar ei ôl mewn galar mawr yn y ddinas hon. Duw a fyddo eu cymhorth a'u gwobr mawr iawn.
H. POWELL. CINCINNATI.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1863.