MRS. ELEANOR FRANCIS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gorphenaf 7fed, yn nhŷ ei brawdyng nghyfraith, Mr. Francis Francis, South Trenton, Sir Oneìda, Caerefrog Newydd, lle yr aethai gyda'i phriod ar ymweliad, Mrs. Ellen Francis, gwraig Mr. John Francis, o Utica.Yr oedd y dreng- edig yn enedigol o Aberdaron, Sir Gaernarfon, ac yn ei 65ed flwyddyn o'i hoed pan y bu farw.
Ymfudodd gyda'i theulu i'r wlad hon yn y flwyddyn 1827. Buont byw bum' mlynedd yn South Trenton, a thua 15eg yn North Trenton.
Tra yn y lle olaf ymunodd hi a'i phriod âg eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Remsen - tua 29ain o flynyddoedd yn ôl, a pharhaodd mewn undeb yno nes symud i Utica, lle mewn undeb âg eglwys o'r un cyfundeb, cafodd y fraint o barhau yn gymeradwy a diddolur, fel un o heddychol ffyddloniaid Israel hyd y diwedd.
Bu farw yn dra sydyn ac annysgwyliadwy, er ei bod yn wael ar droion er ys blynyddoedd; cododd y boreu hwnw fel arferol, ond cododd cyfog arni, cyfogodd lawer o waed - dywedodd ddwywaìth ei bod hi yn mynd - a bu farw!
Gadawodd ar ei hol chwech o blant a chwech o ŵyrion.
Hebryngwyd ei gweddillion marwol i hen gladdfa gysegredig Penycaerau ar y 9fed: y Brodyr D. Hughes, K. Isaac a W. Rowlands yn gweinyddu ar yr achlysur. Traddodwyd pregeth drachefn gan yr olaf ar y 19eg, i eglwys a chynuUeidfa y T. C. yn Utica, oddiar Mat. xxv. 13, mewn cyfeiriad at yr achlysur galarus.