MISS DOROTHY GRIFFITHS, NEW YORK.
Mae hanes bywyd a marwolaeth ieuenctyd duwiol yn gwneud i fyny ran fawr a phwysig yn llenyddiaeth y Saeson a'r Americaniaid crefyddol; ac y mae wedi bod yn fendithiol i filoedd o blant a rhieni. Gallai llenyddiaeth y Cymry fod yn fwy toreithiog o'r fath ddefnyddiau gwerthfawr. Yn ddiau bu ugeiniau o ieuenctid nodedig mewn duwioldeb fyw a marw ygn yr Arglwydd, heb i neb o'n llenorion ysgrifenu na chyhoeddi gair o'u hanes. Ar ddymuniad ei rhieni anwyl a galarus, yr ydwyf yn ysgrifenu y cofiant byr hwn am y chwaer ieuanc dduwiol Dorothy Griffiths, gan obeithio y bydd yn fodd i ni i sychu eu dagrau hwy, ac i gymhell ieuenctyd Cymry America i gysegru eu hunain yn moreu eu hoes i wasanaethu yr Arglwydd yn ffyddlon. Y mae crefydd foreuol o anhraethol werth. Rhydd ras a dedwyddwch ar y ddaear a choron gogoniant yn y byd a ddaw. Y mae y naill oes yn dylanwadu ar y llall, er drwg neu dda, er melltith neu fendith. Yr un modd y dylanwada yr hynafiaid ar eu hiliogaeth. Gwel Exodus xx. 5, 6. Cael cyndadau crefyddol, a rhieni duwiol, sydd werthfawrocach na miloedd o aur melyn. Cafodd Timotheus yr anrhydedd hwnw. 2 Tim. ii. 2, 5. Cafodd Dorothy Griffiths yr un peth. Oni ni wyddwn hyny yn sicr hyd yn ddiweddar.Hanodd o hen deulu duwiol Tyddyn Siarles, ger Dolbadarn, Llanberis, yn Arfon. Yr oedd ei thaid Richard Griffiths, yn ŵr nodedig mewn duwioldeb; a bu yn ddiacon ffyddlon yn yr eglwys Annibynol yn Jerusalem, yn y plwyf hwnw, am yr ugain uilynedd diweddaf o'i oes. Ac yr oedd ei nhain Dorothy Griffiths, yn un o'r gwragedd sanctaidd, dystaw a rhinweddol, a oedd yno yn ffyddlon gydweithio dros lwyddiant achos y Gwaredwr. Yr oeddyut wedi eu dysgu a'u gwreiddio yn egwyddorion yr Annibynwyr. Buont hwy a'u plant yu golofnau dan yr achos yno.
Yn y flwyddyn 1835 yr oedd yr achos yu dra blodeuog yno; a threuliasom lawer o gyfarfodydd anwyl a bendithiol yn eu mysg, yn yr ysgoldy newydd, ger hen gastell Padarn, dau weinidogaeth y Parch. Rees P. Griffiths. Dyna yr amser yr oedd y bachgen "penfelyn," Samuel Jones, yn dechreu blodeuo yn ngardd yr Arglwydd, yr hwn wedi hyny, am dymhor byr, a fu yn weinidog ieuanc mor nodedig dduwioi a defnyddiol yn Maentwrog, Meirionydd. Dyna yr amser yr oedd ei dad a'i fam, a'i frodyr, a'i chwiorydd; ac eraill, yn eu llawn hwyliau. Yr ydym yn awr yn adgofio yr amser dedwydd hwnw gyda theimladau cymysgedig o hiraeth a llawenydd'.
Ganwyd Dorothy Griffiths yn Llanberis, Chwefror 18fed, 1843. Enwau ei rhieni ydynt Griffith a Margaret Griffiths. Y mae ei thad yn fab i'r hynafiaid duwiol uchod o Dyddyn Siarles, a'i mham yn ferch i Griffth a Margaret Roberts. Pentrefelin, gerllaw Tremadog, Sir Gaernarfon.
Pan oedd Dorothy yn chwe' blwydd oed, ymfudodd gyda'i rhieni i St. John, Newfoundland. Buont yno am chwe' blynedd; yna hwyliasant i Boston, ac ymsefydlasant yn Hampton, New York, lle y maent yn bresenol.
Yn haf y flwyddyn 1861, daeth Dorothy i lawr i ddinas New York. Bu yn gwasanaethu gyda theuluoedd parchus ar Fourth Street, ger y Bowery, ac wedi hyny yn rhif 5, Forty Sixth Street. Yn fuan wedi dyfod yma, ymunodd â'r Eglwys Annibynol Gymrejg, ar Heol lleg; ac yn mhen misoedd wedi hyny derbyniwyd hi yn gyflawn aelod. Yr oedd yn nodedig ffyddlon. Cwbl argyhoeddwyd ni ei bod wedi cael ei chyfnewid drwy ras, ac ei bod yn feddianol ar "yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a'r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist."
Yr oedd yn ymdebygoli i'w nhain dduwiol. Cafodd addysg foreuol dda. Teimlodd nerth achubol yr efengyl. Ei phrif hyfrydwch oedd darllen Gair Duw, gweddio yn ddirgel a gwrando pregethiad yr efengyl. Pan oedd eraill o'r aelodau yn anffyddlon ac ymrysongar, a chellweirus, yr oedd hi yn ffyddlon i'w chydgynulliad, yn wylo yn ddystaw, yn meddu ysbryd heddychol, yn cael ymgeledd gras, ac yn dwys deimlo dros lwyddiant yr achos. Pan oedd merched ieuainc eraill a ddaethaht o'r wlad i'r ddinas yn balchio ac yn ymwylltio, yr oedd hi yn myued yn fwyfwy gostyngedig, ac yn gochelyd eu cymdeithas, gau wylio rhag eu hudoliaethau a'u dylanwad niweidiol. Yr oedd yn "ffoi oddiwrth chwantau ieueuctyd," fel ei gelynion penaf; ac yn dilyn ffyddloniaid Sion. Methodd holl ddichellion ac athrod y gelyn ei hysgogi hi. Yn fuan wedi iddi symud i rif 5, 46th Street, cafodd anwyd trwm, a gorfu iddi ddychwelyd adref at ei rhieni, lle y bu am fisoedd yn dihoeni dan y darfodedigaeth.
Bu farw yn dawel a hyderus yn yr Arglwydd Tachwedd 15fed, 1863, yn agos i 21 mlwydd oed. Dywed ei rhieni mai ei geiriau diweddaf bron oedd, "Y buasai yn well ganddi gael byw; ond ei bod yn hollawl foddlawn i ewyllys yr Arglwydd ei Chraig a'i Phrynwr;" ac ychwanegasant, "Ni feddech o fewn eich eglwys yn New York yr un aelod ag oedd yn fwy ffyddlon i chwi, na neb yn y byd yn meddwl mwy o honoch. Yr oedd yn hyfrydwch ganddi yn ei chystudd diweddaf i son am danoch, ac yr ydym yn gwybod y buasai yn well ganddi eich gweled chwi yn ei mynydau olaf na neb arall sydd yn gwisgo cnawd." Yr ydym yn credu byny. Y mae y dystiolaeth yna yn gysur mawr i ni yn ein profedigaethau presenol. Ein prif ddymuniad oedd ac ydyw cael bod yn ddefnyddiol i enill eneidiau at lesu. Cawsom y fraint ohono. Yr eneidiau hyny fydd coron ein gorfoledd yn nydd y farn olaf. Buasai yn dda genym gael cyfleusdra i'w gweled a'i chlywed "yn ei mynydau olaf" yn canmol ei Gwaredwr, ac yn buddugoliaethu ar angen drwy ddylanwad y groes. Ond ni chawsom. Ond yr ydym yn credu y cawn gyfarfod llawen â hi eto yn y nef. O obaith gwynfydedig! Cawn gyfarfod a'r "holl rai a berffeithiwyd" yno. Yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau dan obaith gogoniant Duw.
Claddwyd ei chorff' marwol, Tachwedd. 17eg, 1863, yn mynwent newydd Middle Granville, New York. Ymgynullodd dyrfa fawr o Gymry ac Americaniaid ar yr achlysur; a theimlent yn ddwys wrth weled rhoddi un mor anwyl ganddynt yn y bedd. Pregethodd y Parch. John Jones, oddiar Esa. 40 : 8. Gwywa holl brydferthwch anian, a derfydd holl drysorau amser. Nid oes dim ond bendithion a chysuron duwioldeb yn aros yn dragywydd. Mor werthfawr yw crefydd foreuol. Dygodd Dorothy Griffìths o gyrhaedd pob poen i gyfiawn fwynhad o bob dedwyddwch a gogoniant nefol a thragywyddol. Bobl ieuainc! dilynwch ei hesiamplau. Rieni sychwch eich dagrau; na feddyliwch ormod am ei chystudd a'i bedd; oud myfyriwch fwy ar ei gogoniant nefol. Clodforwn ei Gwaredwr bendigedig, yr hwn a'i prynodd i Dduw drwy ei waed.
R. D. THOMAS, NEW YORK.