MR. HUGH HUGHES. PROSCAIRON, WISCONSIN.
Mehefin 9fed, 1863 o'r Darfodedigaeth Ysgyfeiniawl, Hugh W. mab i William a Mary Hughes, ac ŵyr i Hugh a Mary Roberts, gynt o blwyf Llaniolen, Swydd Gaernafon, Gogledd Cymru, yn awr o Brosoairon, Wisconsin.Collodd mam gwrthddrych ein sylw ei phriod pan ydoedd ei phlant yn ieuainc; wedi hyny symudodd hi a'i rhai bychain, gyda'i thad a'i mam, ac ereill o'i pherthynasau i'r wlad hon. Y mae hi yn awr yn briod â'r Parch. John D. Williams, o gyfundeb y T. C. yn Wisconsin.
Nid oedd yn iach er y gauaf, ac yn mis Chwefror gwaethygu a gwanhau a wnaeth, er yr oll a allai pawb, hyd y dydd a nodwyd uchod, pryd yr ehedodd ei yspryd at Dduw, yr hwn a'i rhoes, cyn bod yn llawn bedair mlwydd-ar-hugain oed.
Y dydd Mawrth canlynol, ymgynullodd tyrfa luosocach nag a welwyd erioed o'r blaen yn yr ardal hon ar y fath achlysur, i ddangos eu parch i'r hwn a fu, a'i berthynasau.
Cychwynwyd oddiwrth y tŷ fel y canlyn : y Band of Hope yn gyntaf, yn cynnwys dros 40 o rifedi, bob yn ddau, a'r faner berthynol iddynt yn cael ei chario o'u blaen, ac arwyddnodau o alar wed'i eu gosod arni. Yn nesaf yr arch, yn cael ei dwyn ar elor gan wyth o ddynion ieuainc; wedi hyny perthynasau yr ymadawedig yn dilyn ar eu traed. Yn ganlynol, dros 60 o gerbydau yn llawnion, mewn gorymdaith tua'r capel - tua haner milltir oddi wrth y tŷ.
Wedi dyfod allan o'r capel, awd drachefn yn yr un dull tua'r gladdfa. Y gweinidogion a gymerasant ran yn gyhoeddus ar yr amgylchiad oeddent, R. Evans, Cambria; J. Daniel, Blaen y cae; J. Williams, Oshkosh; D. Pughe, Rock Hill, a D. R. Jones, Lake Emley.
Yr oedd yn perthyn i Hugh Hughes lawer o rinweddau. Bu yn ffyddlon iawn gyda phlant y gymydogaeth hon yn eu casglu yn nghyd, a'u ffurflo yn gymdeithas dan yr enw Band of Hope, ac yn eu dysgu i ganu, a gosod rheolau arbenig iddynt i'w dilyn tuag at feithrin moesoldeb a rhinwead. Cafodd addysg dda a chrefyddol ei hunan, a chyfranodd yntau o honi i ereill. Yr ydoedd yn feddiannol ar dymher mor addfwyn a siriol, ac yspryd mor dangnefeddus, fel y gellir yn briodol iawn ei alw yn "fab tangnefedd."
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, canys hwy a elwir yn blant i Dduw." Ond "yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angau," " Gwellt yn ddiau yw y bobl; gwywodd y gwelltyn, syrthiodd y blodeuyn, a thegwch ei bryd ef a gollodd.
D. T. PUGH.