MR. JOHN W. HUGHES, OSHKOSH, WISCONSIN.
Marwolaeth Tri o Oshkosh, Wisconsin. - Fel ag y gwelodd darllenwyr y Drych mis Hydref diweddaf, fod 17 o'n cydgenedl o'r ddihas hon, Oshkosh (Wisconsin) a'r Sefydliad cyfagos, wedi rhoddi eu gwasanaeth i'r Talaethau Unedig, ar alwad y Llywydd am 300,000 ychwanegol, tua yr amser hwn y llynedd; aethant oddi yma oll yn fechgyn gwrol a heinif; ond erbyn hyn, er galar nid bychan i'w perthynasau a'u cydnabod, mae 5 o honynt wedì teithio llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelant.Cychwynasant oddi yma gyda'r Gatrawd, Medi lleg, 1862, i wynebu ar y gelyn tua Kentucky a Tennessee; a chan fod y gelynion yn gwneuthur y fath ddifrod, ac yn agosau yn ddyddiol at Cincinnati, bu raid iddynt eu gwynebu cyn iddynt gael bron i ddim regimental drill, felly gorfu iddynt gymeryd rhan mewn ymdrechfa galed dros eu gwlad. Hydref. 8fed, sef brwydr Perryville, Kentucky, clwyfwyd un o'r rhain yn farwol! Ei enw oedd John W. Hughes, bachgen ieuanc 20 mlwydd oed, a mab i'r diweddar William Hughes, pa un oedd yn Agent y blynyddoedd diweddaf o'i oes yn Chwarel Diphwys, Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru.
Gorphenodd ef ei yrfa mewn clafdy yn agos i Murfreesboro, Tennessee, Ebrill 3, 1863, ar ôl cystudd trwm am 5 wythnos, o'r Dwymyn Typhoid. Efe oedd y Cymro cyntaf a ymrestrodd o'r gatrawd hon. Dangosodd gariad mawr at y wlad, gan nad oedd ond ychydig dros ddwy flynedd er pan ymfudodd o wlad ei enedigaeth.
Yr oedd ef wedi cael ei ddwyn i fyny yn yr eglwys, ond daeth drosodd i'r wlad hon yn ddisymwth, ac heb lythyr eglwysig, a'r canlyniad fu iddo sefyll yn ôl o fwynhau breintiau yr eglwys; ond yn ôl a glywsom, yr oeddym yn cael lle cryf i gredu ei fod yn wynebu angau heb ei golyn. Felly nid oes genym ond dymuno heddwch i'w llwch, fel milwyr gwir ffyddlawn; a gobeithio y gwel yr Arglwydd yn dda i gysgodi y gweddill o'n milwyr gwrol sydd ar y maes, ac fod yn unol â'i drefn oruchel roddi terfyn ar y gwrthryfel poenus presenol yn fuan.
JOHN J. JENKINS A THOMAS W. HUGHES.