MR. JOHN W. JAMES. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

Ganwyd John W. James yn mhlwyf Llanddeiniolen, Ionawr 15fed, 1828.

Enwau ei dad a'i fam oeddynt William a Mary James. Pan oedd John yn agos i bedair blwydd oed, aeth ei rieni ac yntau gyda hwy i fyw i Lanberis, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Bu iddynt 8 o blant, a John oedd yr hynaf o honynt. Y mae y fam, 4 o frodyr, ac 1 chwaer eto yn fyw, ac y maent yn byw yn gysurus yn agos at eu gilydd yn mhlwyf Granville, Swydd Washington, Talaeth Efrog Newydd.

Bu farw tad Mr. James pan oedd John yn nghylch 13 oed. Yr oedd ei dad a'i fam yn aelodau gyda y Methodistiaid Calfinaidd, ac yr oeddynt yn dra ymdrechgar i addysgu eu plant yn egwyddorion crefydd y Beibl. Tra y cafodd eu tad fyw gyda ei blant, gellir dweyd iddo wneud ei oreu i'w hyfforddi yn mhen eu ffordd.

Yr oedd John yn nodedig yn mysg ei frodyr am gymeryd addysg - yr oedd yn gallu darllen ei Feibl yn dda cyn bod yn 4 mlwydd oed - ac yr oedd ganddo hyfrydwch mawr mewn trysori Gair Duw yn ei gof cyn bod yn 6 mlwydd oed.

Cymerodd ei rieni ofal mawr am dano. Cafodd ei fagu ganddynt yn Eglwys Dd«w. Ymddangosai John bob amser yn ddifrifol a meddylgar. Yr oedd yn fwy felly na llawer o ieuenctyd, ond yr oedd yn hynod siriol a chyfeillgar, ac yn gyfaill cywir a didwyìl. Yr oedd ganddo barch mawr bob amser i grefydd a chrefyddwyr, ac ymddangosai fod ymdrech, cynghorion ac esiamplau da ei rieni wedi effeithio yn ddwys a gwreiddio yn ddwfn yn ei feddwl pan yn fachgen, ond pan oedd tua 15 oed ymddangosai fod dylanwad ei gyfoedion ieuainc yn effeithio i beri i'r llafur a gymerasid gydag ef yn y blynyddoedd boreuaf ei oes a'r cynghorion a dderbyniasai gan ei rieni ac yn yr Ysgol Sabbothoi am dymor i beidio a ffrwytho mor ddymunol ag y dysgwyliasid - fe ymollyngodd i raddau tua yr adeg yma o'i oedrar a gydag arferion ieuenctyd yr oes a'r ardal lle yr oedd yn byw. Ni fu dim yn neillduol yn amgylchiadau Mr. James wedi hyn hyd nes oedd yn 21 oed.

Yr amser hwn yr oedd teulu Griffth Griffiths o ardal Llanberis yn ymfudo i America, a daeth yntau hefyd i'r penderfyniad i ddyfod gyda y teulu uchod. Ymsefydlodd Mr. Griffiths y pryd hyny yn Newfoundland, ac yno yr arosodd Mr. James gyda hwy am yn nghylch blwyddyn a haner. Nid oedd yn y lle hwnw y pryd hyny ond ychydig iawn o Gymry; ond byddai yr ychydig oedd yno yn arfer cyfarfod a'u gilydd ar y Sabbothau yn nhŷ Mr. Griffith Griffiths, i ddarllen a chwilio y Beibl. Yr oedd y llanc ieuanc James yn nodedig o ran ei sel a'i ymdrech gyda yr Ysgol Sabbothol yno, ac yr oedd y gofal am ac hefyd y parch a ddangosai ef ac eraill i'r Sabboth, yn nghyd a'u hymdrech gyda yr Ysgol Sabbothol, wedi peri i'r brodorion yno i ryfeddu wrth eu hymddygiadau, ac mewn canlyniad deffrodd trigolion y lle hwnw at eu dyledswydd a sefydlasant hwythau ysgol Sabbothol yu eu plith eu hunain mewn lle na fu ysgol Sabbothol erioed o'r blaen.

Symudodd Mr. James o'r lle uchod i Dalaeth Pennsylfania, a bu yn yr ysgol am ryw dymor yn Lancaster. Daeth oddiyno i Fair Haven, Vermont.

Yn ya amser uchod yr oedd ei fam a'i frodyr yn aros yn eu hen gartref yn Nghymru: ac y mae y llythyrau a anfonai atynt yr amser hyny yn dangos yn eglur nad oedd efe fel rhai bechgyn ieuainc sydd wedi gadael Cymru yn anghofio eu perthynasau agosaf. Yr oedd ef yn hynod o ofalus am ei fam, yr hon oedd y pryd hyny wedi ei gadael yn weddw yn Nghymru; a rhoddai brawfiadau yn aml o'i serch a'i ofal am dani, ac hefyd nad oedd ei chynghorion a'i haddysg a roddasai iddo pan oedd yn blentyn wedi myned yn ofer.

Yn niwedd y flwyddyn 1853 aeth i ymweled a'i berthynasau yn Nghymru, ac yn y gwanwyn canlynol dychwelodd yn ôl gydag un o'i frodyr, a bu wedi hyny yn cadw Store yn Fair Haven, Vermont.

Yn mis Gorphenaf, 1855, ymbriododd gyda Miss Hannah Owens, diweddar o'r Fron, Llanberis, a buont yn byw yn Fair Haven am rai blynyddau, ac oddiyno y daethant i ymsefydlu yn agos i Middle Granville yn y dalaeth hon (New York), lle y bu ef a'i briod, ei fam a'i frodyr yn gysurus a llwyddianus mewn cysylltiad a'r gwaith llechi (slate). Ymddangosai fod Rhagluniaeth y nef yn gwenu arnynt yn eu hamgylchiadau. Yr oedd Mr. James a'i briod yn ddedwydd iawn gyda eu gilydd. Bu iddynt 5 o blant, ac y mae 3 o honynt yn awr yn fyw gyda eu mam alarus.

Ond er mor ddedwydd a gobeithiol a defnyddiol yr ymddangosai fod Mr. James mewn gwahanol gysylltiadau, daeth angau i roddi terfyn ar ei holl obeithion yn y byd hwn. "Y dydd hwnw y darfu am ei holl amcanion ef," Salm 146: 4. Ychydig gyda blwyddyn yn ôl ymunodd Mr. James gyda yr Eglwys Annibynoi yn Middle Granville, a bu yn gymhorth a chysur i'r eglwys hono tra y bu byw. Yr oedd yn un o'r rbai mwyaf ffýddlon gyda yr achos yn y lle hwn hyd y diwedd. Yr oedd yn dra ymdrechgar gydag adeiladu y capel yn y lle hwn, ond ni chafodd ond yn brin ei weled wedi ei orphen, cyn gadael yr eglwys ar y ddaear a myned at yr eglwys orfoleddus fry yn y nef.

Yr oedd amgylchiadau ei ymadawiad yn bur ofidus. Cychwynodd o'i gartref ar daith tua Buffalo, New York. Gwnaeth ei negesau yno, a dychwelodd yn ôl ar ei ffordd tuag adref mor belled ag Utica; arosodd yma gyda bwriad i ymweled â chyfeillion. Daeth i dŷ ysgrifenydd y llinellau hyn, ac yr oedd yn teimlo yn wael. Ymwelodd hefyd â'i hen gyfaill Mr. T. G. Jones.

Yr wythnos ddiweddaf y bu fyw yr oedd yu nhŷ yr ysgrifenydd, ac un o'ì gyfeillion, Mr. H. H. Williams o Granville, gydag ef.

Ei glefyd oedd dolur y galon, o'r hwn y bu farw ar yr 22ain o Ionawr, 1863. Cafodd bob cymorth meddygol a ellid gael iddo yn Utica, a chafodd bob caredigrwydd a allai ei gyfeillion wneuthur iddo yn ei afiechyd, ond er y cwbl yr oedd yn rhaid marw yn mhell oddiwrth ei briod a'i deulu hoff ac anwyl. Ond y mae yn dda genym fod seiliau i gredu fod ei Waredwr gydag ef, a bod yr hwn a'i gwnaeth yn Briod iddo. Nid oedd heb ei gwmni Ef yn ei gyfyngder olaf.

Aeth yr ysgrifenydd gyda Mr. H. H. Williams a gweddillion ein cyfaill ymadawedig i Granville at y teulu galarus, a chladdwyd ef ar ddydd Llun, Ionawr 26ain, yn Fair Haven, Vermont.

Gweinyddwyd ar yr amgylchiad galarus i dyrfa fawr o Gymry a Saeson gan y brawd R. L. Herbert, a chan yr ysgrifenydd.
L. D. HOWELL.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1863.