MR. THOMAS R. ROBERTS, REMSEN, EFROG NEWYDD.
Mab oedd Thomas i Richard a Jane Roberts, o Ben-y-caerau, Aberdaron,Lleyn.Daeth gyda'i dad a'i fam i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818.
Dysgodd y gelfyddyd o gyffeithio crwyn a thrin lledr (tanner and currier), a bu yn dilyn y gelfyddyd hono am rai blynyddau yn Remsen, a manau eraill.
Yn y flwyddyn Ì836, ymunodd mewn priodas â Miss. Jane Jenkins, merch i Mr. Edward Jenkins, a chwaer i wraig i Mr. 0. J. Owens, Remsen.
Wedi hyn ymfudasant ì'r. Gorllewin, a buont yno am rai blynyddau. Nid oedd ei iechyd ef yn dda cyn myned yno, a dim yn well ar ol myned.
Wedi hyn dychwelasant i Dalaith Caerefrog-Newydd. Daeth ef o flaen ei deulu, ac ar ei daith cafodd annwyd lled drwm a myned yn waeth-waeth a wnaeth er treio amrai feddygon, a defnyddio llawer o'u cyfferiau.
Yr oedd Mr. Roberts yn ddyn dichlynaidd, yn gymydog hynaws, ac, er nad oedd yn gwneuthur proffes gyhoeddus o grefydd Iesu Grist, eto, tua diwedd ei oes yr oedd wedi cael cyfnewidiad mawr yn ei feddwl, fel yr oedd, yn ol ei gyfaddefiad ef ei hun, yn gweddio yn aml am faddeuant, ac am i'r Arglwydd roddi trugaredd iddo.
Yr oedd yn awyddus iawn am gael y Brodyr crefyddol i weddio gydag ef yn ei gystudd, ac yn hoff iawn o gael cymdeithasu â hwynt.
Foreu yr 8fed o Ebrill, aeth yn analluog i ddywedyd dim yn ddealladwy a bu mewn ymdrech galed rai oriau; ac yn nghylch 45 mynyd wedi 10 ar gloch noson yr 8fed o'r mis uchod, y cymerodd y wreichionen anfarwol ei hedfan i'r byd mawr tragywyddol ac ysbrydol. Ebrill y 12fed, daeth tyrfa lled luosog yn nghyd i weini y wasanaeth olaf i'w weddillion marwol, gan hebrwng ei gorph i dŷ ei hir gartref. Awd â'r corph i Gapel Cerig, Remsen.
Ac ar yr achlysur, darllenodd a gweddiodd y Parch. Jesse Jones yn y Saesonaeg, a phregethodd y Parch. W. G. Pierce, yn Gymraeg, a'r Parch. R. Everett, yn Saesonaeg.
Wedi hyny cychwynwyd â'r corph i gladdfa Pen-y-caerau i orwedd yn llwch y bedd hyd foreu udganiad yr udgorn mawr. Yng nghyd a'i ddau blentyn, ganwyd i'w weddw drallodus faban yn mhen saith niwrnod wedi ei gladdedigaeth.