MR. DAVID JONES, AURORA, ILLINOIS.

Mai 27ain, yn 25 mlwydd oed, yn Corinth, Mississippi, David Jones.

Ei glefyd oedd y lung fever, yn y dechreu, a dilynwyd gan y typhoid fever, yr hwn yn fuan a derfynodd yn angeuol - pymtheg diwrnod bu yn glaf.

Ganwyd ef yn Penmorfa. yn agos i Dolbenmaen, swydd Arfon, Gogledd Cymru. Mab ydoedd i William. ac Elinor Jones, diweddar o Constableville, swydd Lewis, Efrog Newydd, yn bresenol o Aurora, Kane County, Illinois. Ymunodd David Jones (a John Jones brawd iddo yr hwn sydd eto yn Corinth) â'r 52ain gatrawd Illinois Vol. Infantry (Col. Wilson) yn mis Awst, 1861. Buont am beth amser yn Missouri; oddiyno galwyd y gatrawd i Tennessee. Yr oedd yn mrwydr Pittsburg Landing a'r ddwy frwydr fu yn Corinth a Iuka (Ala.) ac amryw mân frwydrau eraill, ond daeth allan o bob un yn ddi-friw gan mai ewyllys yr Arglwydd oedd i David farw yn ei wely o farwolaeth naturiol.

Fe anfonwyd at ei dad i'w hysbysu fod ei fabyn glaf, aeth ei dad ar frys, cyrhaeddodd Corinth ddydd Sabboth yr 31ain, bedwar diwrnod yn rhy hwyr i'w weled, a dychwelodd i Aurora dan drallod dwys.

Gan fod i'r marw lawer o berthynasau yn nghymydogaeth Dolbenmaen, lle mae ei nain ac ewythr a modryb ac eraill - er eu rnwyn dymunir ar i'r Dysgedydd a'r Drysorfa godi yr uchod.
R. W. MATHEWS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorffennaf 1863.


MR. DAVID JONES, AURORA, ILLINOIS.

Mai, 1863, bu farw, yn y Clafdy Milwrol yn Corinth, Miss., David Jones, yn y 25ain flwydd o'i oed. Mab ydoedd i William ac Helen Jones gynt o swydd Gaernarvon, Gogledd Cymru.

Ganwyd D. Jones yn y Garn. Dolbenmaen, Gorphenaf 28ain, 1838, daeth gyda'i rieni i'r wlad hon yn y flwyddyn 1845; trigiasant am naw mlynedd yn Nhalaeth Efrog Newydd, yn Floyd, Steuben a Constableville. Symudasant i Aurora, Talaeth Illinois yn 1854.

Yma yr ymunodd D. Jones a'r fyddin yn y 52nd Regt., Illinois Vol., Co. A. Profodd ei hun yn fìlwr glew a grymus. Dygodd ei ran yn mrwydrau gwaedlyd Fort Donaldson, Shiloh, Corinth, Iuka, Cane Creek a'r oll ysgarmesion y buont ynddynt o'r dechreu, daeth trwyddynt oll yn ddianaf i syrthio yn y diwedd yn ysglyfaeth i'r typhoid Fever.

Claddwyd ef yn anrhydeddus yn meddrod y milwyr yn Corinth, yn nyffryn mawr y Mississippi, hyd ganiad yr udgorn, pan,

Gyd gesglir o'i gysgle,
Lychyn at lychyn i'w le.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1863.