MRS. JANE JONES. FREEDOM CATTARAUGUS, NEW YORK.

Mrs. Jane Jones, gwraig Robert T. Jones, o blwyf Freedom, swydd Cattaraugus, talaeth Efrog Newydd, Gogledd America; ond gynt o Dyddyn y Gareg, plwyf Dolgellau, Gogledd Cymru.

Hi a fu farw Chwefror 24ain, 1863. Ei chlefyd oedd enynfa yr ysgyfaint. Ei hoedran pan fu farw oedd 77eg. Bu yn briod wyth mlynedd a deugain. Bu iddi un ferch yr hon a fu farw pan yn ddwy flwydd oed, bu hefyd iddi bump o feibion, o ba rai y mae dau yn Nghymru, sef, Thomas a John, a thri yn America, sef, Howell, Robert, a William, oll yn arddelwyr crefydd.

Bu Mrs. Jones yn grefyddol bum mlynedd a deugain. Daeth i'r America bedair blynedd ar ddeg i'r haf dyfodol, a chyn pen hir hwy a ymsefydlasant yn Cattaraugus. Naw mlynedd i'r gwanwyn hwn hwy a brynasant dyddyn lled dda, ac arno dŷ mwy helaeth na'r cyffredin. Yr oedd pregethu yn yr ardal o'r blaen gan yr ysgrifenydd, ond yr amser hwn agorasant hwythau eu drws, ac arosodd yr achos o dan eu cronglwyd fel yr arch gynt yn nheulu Obededom. Ar ol bod yn pregethu yn lled gyson ar y Sabboth am dair blynedd, cawsom ar ein meddwl ffurfîo eglwys, a daeth yn ei blaen yn gangen flodeuog a ffrwythlawn o dan ofal yr un gweinidog a Carmel, eglwys Gynulleidfool arall yn yr ardal hono.

Ac felly mwynhaodd Mrs. Jones yr ysgol Sabbothol, cyfarfodydd canu, cyfarfodydd gweddi cyfeillachau crefyddol, gweinyddiad yr ordinhadau a'r pregethu, heb achos iddi fyned dros ei throthwy am y naw mlynedd diweddaf o'i hoes ac fel atdaliad am hyn, byddai hithau yn garedig iawn i bawb, yn ymgeleddgar iawn o'i gweinidog, ac eraill o weision yr Arglwydd, a fyddent yn dyfod ar eu tro i bregethu i Siloam. Ond er ein bod gwedi cael llawer o odfaon da, a rhan o ddiwygiad lled nerthol, nid wyf yn cofio ei gweled na'i chlywed erioed ar uchelfanau y maes, ond ofni bron o hyd.

Ni chafodd ond cystudd byr. Yr oeddwn oddi cartref, yn Utica, yr hwn sydd gant a phedwar ugain milldir o Cattaraugus, i'r hwn le yr wyf wedi dychwelyd i ail ymgymeryd a gwaith y weinidogaeth. Bum yn Utica 17eg o flynyddau o'r blaen, ond wedi hyny agos i bedair ar ddeg yn Cattaraugus. Buasai yn dda genyf fod gyda yr hen chwaer pan ar fin marw, dygwyddais fod yno erbyn ei chladdedigaeth.

Dydd ei chladdedigaeth ymgasglodd tyrfa luosog iawn yn nghyd o Gymry ac Americaniaid. Dechreuwyd y gwasanaeth crefyddol gan y brawd John R. Jones. Yna pregethodd y Parch. John P. Harris, yn Saesoneg, oddiar y geiriau,." Trefna dy dŷ, canys marw a fyddi, ac ni byddi byw," Yna pregethodd James Grifliths, yn Gymraeg, oddiar y geiriau, "Ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth, oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed." Yna rhoddwyd ei gweddillion i orphwys mewn mynwent heb fod yn mhell o'i hanedd, yn ymyl gweddillion amryw o'i hen gyfeillesau crefyddol, hyd foreu caniad yr udgorn mawr. Gwnaeth angau wrth ei symud, fwlch mawr yn y teulu, yr eg. lwys, a'r gyinydogaeth.
Yr eiddoch yn barchus,
JAMES GRIFFITHS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1864.