MR. JOHN R. JONES. CAMPTONVILLE, CALIFORNIA.

Ionawr 31ain, 1863, yn Camptonville, California, Mr. John R. Jones, genedigol o Blaenau Ffestiniog, swydd Feirion. yn 38 mlwydd ac 11 mis oed.

Daeth i'r wlad hon (Califfornia) oddeutu 6 mlynedd yn ôl.

Dyoddefodd gystudd blin yn nghorff y ddwy flynedd ddiweddaf, yr hyn a derfynodd yn ei angau.

Claddwyd ef yn nghladdfa' San Juan wrth ochr ei frawd, Dafydd R. Jones.

Gweinyddwyd yn y tŷ gan yr ysgrifenydd, ac yn San Juan gan yr un a'r Parch. David J. Lewis i dyrfa luosog iawn o Gymry ac amryw Americaniaid.

Corff marwol Ioan sy'n y ddaear
Mewn marwol hun hyd derfyn amser,
Ei yspryd byw oddiy'ma 'hedodd
I'r ochr draw at Dduw a'i rhoddodd.
WILLIAM O FON.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1863.