MRS. MARGARET JONES. BETHEL, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 7fed, 1863, yn ardal Bethel, Remsen, Mrs. Margaret Jones, gweddw y diweddar John M. Jones o'r ardal hono, tua 69 mlwydd oed.

Yr oedd yn ferch i'r diweddar William Grifiiths, Llanllawen, yn frodor o Leyn, sir Gaernarfon, ac wedi bod yn y wlad hon ers llawer iawn o flynyddoedd.

Bu yn aelod eglwysig dros flynyddau lawer yn y capel Ucha', Steuben, ac yn dra ffyddlon yn ei chylch crefyddol. Yr oedd yn awr er's hir amser yn aelod yn yr eglwys Annibynol yn Bethel.

Nid oedd yn iach er's misoedd, nac yn alluog i ddyfod i foddion gras. Ond y cystudd diweddaf (inflammation of the lungs) oedd fyr - ni pharhaodd ond dros bump neu chwe' diwrnod. Yn ei chystudd yr oedd yn gorfoleddu yn Nuw ei hiachawdwriaeth.

Claddwyd hi yn mynwent Bethel, a gweinyddwyd gan y brodyr H. Everett a M. Roberts.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1863.